“Eiliad hanesyddol i ddefnyddwyr gwasanaethau yng Nghymru”

Bydd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Edwina Hart AC yn cyflwyno’r Mesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru) yn y Senedd heddiw.

Mae’r Mesur arfaethedig, sydd yn caniatáu cymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas ag iechyd meddwl yn dilyn ymlaen o Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Iechyd Meddwl Jonathan Morgan AC a gyflwynwyd ym 2008. Mae’n delio â mynediad at ofal a thriniaeth o fewn gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol ac eilaidd ynghyd â’u derbyn a bydd yn berthnasol i’r bobl sydd yn derbyn gofal a thriniaeth o fewn y gwasanaethau hyn yng Nghymru. Bydd hefyd yn gwneud darpariaeth i bobl sy’n derbyn gofal a thriniaeth yn yr ysbyty fel y gallant gael mynediad at eiriolaeth annibynnol ac arbenigol.

Wrth gynnig sylw ar y Mesur arfaethedig, dywedodd Bill Walden-Jones, Prif Weithredwr yr elusen iechyd meddwl Gymreig Hafal: “Gwerth canolog y Mesur arfaethedig yw ei fod yn rhoi hawl gyfreithiol i bobl sy’n derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd i gael cynllun gofal.

Mae ein cleientiaid yn gwybod o brofiad bod yna well siawns o wella pan fo cynllun gofal a thriniaeth cynhwysfawr mewn lle. Rydym wrth ein bodd bod y Mesur arfaethedig yn cydnabod pwysigrwydd cynllunio gofal a gobeithiwn y bydd yna gyfeiriad at God Ymarfer Cymru ar gyfer y Ddeddf Iechyd Meddwl sydd yn darparu cynsail cyfreithiol amlwg ar gyfer pa feysydd y dylid eu cynnwys mewn cynllun gofal.

“Er bod yna gryn dipyn i’w ganol yn y Mesur arfaethedig, rydym yn credu bod angen mynd i’r afael ag un mater yn benodol; mae’n hanfodol fod yna amserlen wedi’i phennu’n gyfreithiol rhwng cael eich atgyfeirio yn y lle cyntaf gan Feddyg Teulu a chreu cynllun gofal ar gyfer y sawl yr aseswyd bod angen gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd arnynt. Mae ein Haelodau yn ymwybodol ei fod yn hynod bwysig i greu cynllun gofal cyn gynted â phosib er mwyn atal cleifion rhag gwaethygu ac i symud ymlaen mor bositif ac effeithiol ar y pwynt cynharaf.”

Pan gynigiodd y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Iechyd Meddwl, dywedodd Jonathan Morgan AC fod y darn o dystiolaeth fwyaf cymhellol ynghylch yr angen dybryd i ddiwygio wedi dod o’r defnyddiwr gwasanaethau ac aelod staff Hafal erbyn hyn, Lee McCabe. Wrth siarad am y Mesur arfaethedig, dywedodd Lee: “Mae hon yn eiliad hanesyddol ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau yng Nghymru a fydd yn cael ei hystyried yn drobwynt o safbwynt darparu hawliau allweddol i gleifion ag afiechyd meddwl difrifol.

“Bydd unrhyw un sydd ag afiechyd meddwl difrifol yn croesawu’r diwrnod pan roddwyd hawl gyfreithiol i ddefnyddwyr gwasanaethau i gael cynllun gofal a thriniaeth cynhwysfawr gan fod hyn yn gam mor bwysig tuag at adferiad. Bydd yr hawl gyfreithiol i gael cynllun gofal yn atal nifer o bobl rhag gwaethygu gymaint fel bod rhaid iddynt gael triniaeth dan orfodaeth sydd yn brofiad dinistriol a gwrth-therapiwtig. Ond bydd rhaid i ni sicrhau bod y rheoliadau yn amlinellu’n ddigon clir y meysydd hynny y dylid eu cynnwys yn y cynllun gofal a thriniaeth er mwyn sicrhau ei fod mor effeithiol â phosib.”

Er mwyn darllen y Mesur arfaethedig, ewch i: http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislation-measures-mhs-2.htm

Er mwyn darllen ymateb manwl Hafal i’r Mesur arfaethedig, ewch os gwelwch yn dda i: www.hafal.org

Er mwyn darllen stori newyddion BBC Wales ar y Mesur Arfaethedig, ewch os gwelwch yn dda i: http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/8580317.stm