Meddygon Teulu yn lansio ymgyrch dros fynediad gwell

Mae arolwg gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (GPs) wedi canfod mai ond 15% o Feddygon Teulu sydd “fel arfer yn medru sicrhau therapi seicolegol i oedolion sydd ei angen, a hynny o fewn dau fis ar ôl iddynt gael eu hatgyfeirio.”

Cynhaliwyd yr arolwg fel rhan o ymgyrch newydd yn galw am fynediad gwell at therapïau seicolegol. Wedi’i lansio yn San Steffan yr wythnos hon, mae’r ymgyrch wedi herio’r holl bleidiau gwleidyddol i gynnwys ymrwymiad yn eu maniffestos etholiadol i gynnig, o fewn pum mlynedd, therapïau seicolegol wedi’u selio ar dystiolaeth i’r holl rhai hynny sydd eu hangen o fewn 28 diwrnod i wneud cais atgyfeirio.

Dywedodd Cadeirydd CBYC, yr Athro Steve Field said: “Mae hawl gan gleifion i dderbyn triniaethau sydd yn cael eu hargymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol (NICE). Mae yna welliannau sylweddol wedi’u gwneud yn y blynyddoedd diwethaf ond mae cryn ffordd i fynd. Mae’n hanfodol fod y rhaglen bresennol o Fynediad Gwell at Therapi Seicolegol yn cael ei chwblhau yn y Senedd nesaf gyda chyllid digonol ar gyfer hyfforddiant ac ar gyfer cyflogi therapyddion ychwanegol. Mae angen yr un peth ar gyfer plant (roedd yr arolwg yn datgelu mai ond 6% o Feddygon Teulu sydd fel arfer yn medru sicrhau therapi seicolegol ar gyfer plant sydd ei angen, a hynny o fewn wyth wythnos ar ôl iddynt gael eu hatgyfeirio). Hyd yn oed os oes yna wasgfa ariannol, mae’r dystiolaeth yn dangos y bydd hyn yn arbed arian i’r wlad.”

Anogodd yr Athro a’r Arglwydd Layard, Cyfarwyddwr Rhaglen Les yn y London School of Economics, y pwysigrwydd o fynediad gwell ar gyfer cleifion. Dywedodd ef: “Afiechyd meddwl o bosib yw’r achos sengl mwyaf o drallod yn ein gwlad. I’r rhai hynny sy’n ei brofi, y lleiafswm y dylem ei gynnig yw’r un safon o ofal â’r hyn sy’n cael ei ddarparu’n awtomatig petai afiechyd corfforol ganddynt. Byddai gwleidyddion sydd wedi ymrwymo i hyn yn derbyn pleidlais enfawr o ddiolch oddi wrth miliynau o deuluoedd yn y wlad hon.”

Mewn datganiad a wnaed i Newyddion y BBC, dywedodd Llefarydd ar ran yr Adran Iechyd: “Mae yna mwy o waith i’w wneud eto a byddwn yn gweithio’n agos gyda Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ac eraill i gyflawni hyn.”

Er mwyn darllen mwy am y stori hon, ewch os gwelwch yn dda i: http://news.bbc.co.uk/1/hi/health/8578099.stm