Hafal i lansio ymgyrch “Y Ffordd at Adferiad” 2010

Bydd ymgyrch yr elusen iechyd meddwl Gymreig Hafal, Y Ffordd at Adferiad, yn cael ei lansio gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Edwina Hart AC yn adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd ar ddydd Mawrth, 20fed o Ebrill.
 
Nod ymgyrch Hafal, a fydd yn cael ei arwain gan fws meicro VW o’r 1960au sydd wedi’i adnewyddu’n llwyr ac yn teithio drwy’r 22 sir yng Nghymru, yw lledaenu’r gair am adferiad iechyd meddwl mewn ffordd hwyliog ac addysgiadol.

Mae adferiad yn golygu adennill iechyd meddwl a sicrhau ansawdd gwell o fywyd, ac o fis Ebrill i fis Medi, bydd staff a chleientiaid Hafal – pobl ag afiechyd meddwl difrifol a’u gofalwyr – yn ymgyrchu i hysbysu’r cyhoedd y dylai adferiad fod yn ddisgwyliad i’r holl bobl yng Nghymru sydd ag afiechyd meddwl difrifol.

Yn ogystal â chyfathrebu nifer o negeseuon pwysig i bobl Cymru, bydd yr ymgyrch hefyd yn cynnwys nifer o weithgareddau haf llawn hwyl hefyd: bydd y 22 digwyddiad yn cynnwys themâu megis partïon traeth, ffordd syrffio o fyw, bwyta’n iach ayyb. Bydd modd hefyd i ymwelwyr i arwyddo cerdyn post Y Ffordd at Adferiad arbennig a fydd yn cynnwys neges ar faterion ymgyrchu allweddol.

Mae’r bws meicro VW yn cynnwys y teclynnau TG diweddaraf gan gynnwys pedwar sgrîn gyffwrdd gyfrifiadurol y mae’n bosib i ymwelwyr eu defnyddio er mwyn cael gafael ar wybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd ynglŷn â gwella o afiechyd meddwl difrifol. Bydd cynnydd y VW yn cael ei ddilyn drwy gyfrwng map rhyngweithiol arbennig fydd yn cael ei arddangos ar wefan arbennig yr ymgyrch.

 Mae tri amcan penodol yr ymgyrch fel a ganlyn;

·         Mae Cymru wedi derbyn y pŵer yn ddiweddar i greu deddfwriaeth iechyd meddwl newydd ac mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyflwyno “Mesur” drafft (cyfraith Gymreig). Hoffai Aelodau Hafal i’r gyfraith newydd ac unrhyw reoliadau cysylltiedig i roi hawl gyfreithiol i’r holl bobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol i gael cynllun gofal holistaidd ac i amlinellu’r holl feysydd y dylai’r cynllun gofal eu cynnwys. Rydym yn credu y dylai cynlluniau gofal gynnwys yr holl feysydd sydd wedi eu pennu yn y Cod Ymarfer Cymreig ar gyfer y Ddeddf Iechyd Meddwl, fel a ganlyn:

Triniaeth feddygol; Ffurfiau eraill o driniaeth gan gynnwys therapïau seicolegol; Gofal personol a lles corfforol; Llety; Gwaith a galwedigaeth; Hyfforddiant ac addysg; Cyllid ac arian; Agweddau cymdeithasol, diwylliannol ac ysbrydol; Rhianta neu berthnasau gofalu.

·         Rydym yn credu y dylid datblygu a darparu holl wasanaethau iechyd meddwl y dyfodol mewn ymateb i gynlluniau gofal unigolion. Byddai hyn yn golygu rhoi ‘bwydlen’ o wasanaethau i bob person i ddewis ohono, fel y gallant wneud dewisiadau eu hunain mor aml â phosib yn eu hadferiad.

·         Yn sgil y pwysau sydd ar wariant cyhoeddus, rydym am weld adnoddau ar gyfer iechyd meddwl a gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu diogelu’n llwyr – ac am adnoddau newydd er mwyn sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yn cyrraedd y safon.