Mae’r Comisiynydd Plant i Gymru Keith Towler wedi galw am ymestyn Mesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru) i’r sawl sydd o dan 18 mlwydd oed.
Gwnaeth Mr Towler ei gais yn ystod sesiwn hel tystiolaeth a gynhaliwyd gan Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 yn y Senedd heddiw.
Ar hyn o bryd, mae “claf perthnasol” o fewn y Mesur, a fydd yn rhoi pwerau deddfu newydd a hanesyddol ar iechyd meddwl yng Nghymru, yn cael ei ddiffinio fel oedolyn.
Fodd bynnag, pan gynigiodd AC Gogledd Caerdydd Jonathan Morgan y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) a arweiniodd at y Mesur, y nod oedd y byddai’r ddarpariaeth yn “diystyru oedran” er mwyn sicrhau gwasanaeth di-dor a fyddai’n rhoi diwedd ar ddiffygion yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed presennol (CAMHS).
Dywedodd Mr Towler wrth y pwyllgor: “Rwyf yn cefnogi’r Mesur ond hoffwn ei weld yn cael ei ymestyn i’r sawl sydd o dan 18 mlwydd oed. Mae gweithwyr proffesiynol yn y maes yn croesawu’r syniad yma, nid wyf yn gweld rheswm paham na allai hyn ddigwydd.”
Dywedodd Mr Towler wrth y pwyllgor ei fod “am weld y Mesur yn cael ei ail-ysgrifennu” er mwyn sicrhau bod y sawl o dan 18 mlwydd oed yn cael eu cynnwys yn yng nghylch gorchwyl y Mesur. Ychwanegodd: “Er bod y rhain yn faterion cymhleth, nid wyf wedi clywed dadl eto sy’n awgrymu nad oes modd mynd i’r afael â’r materion yma.”
Wrth roi tystiolaeth, mynegodd Mr Towler ei rwystredigaeth ynghylch y diffyg cynnydd sydd wedi ei wneud o safbwynt gwasanaethau plant a phobl ifanc ers cyhoeddi (ym 2001) Dogfen Strategaeth Cynulliad Cymru ar CAMHS, Busnes Pawb.
Dywedodd: “Ar y funud, nid oes dim byd yn gwneud gwahaniaeth i blant a phobl ifanc. Rwyf wedi siarad o’r blaen am yr angen i bobl i ganolbwyntio eu meddyliau ar yr hyn sydd ei angen ei ddarparu, rwy’n credu bod y ffordd y mae gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc ddim ar gael yn warthus ac mae angen i ni i fynd i’r afael â hyn.
“Mae methiant presennol o safbwynt y gwasanaethau yn rheswm digonol dros gynnwys pobl ifanc yn y Mesur, rhaid i rywbeth i ddigwydd, rhaid i ni ddatrys hyn, a bod yn onest, rwy’ wedi cael digon o siarad yn ei gylch, rhaid i ni fynd â’r maen i’r wal!”
Ychwanegodd Mr Towler: “Mae’n 10 mlynedd ers ‘Busnes Pawb’, mae angen adolygu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol, ac eto, rydym yn dal i wybod fod gagendor sylweddol gennym rhwng yr hyn yr ydym oll am weld yn digwydd a’r hyn sydd yn cael ei ddarparu.
“Nid yw’r Fframwaith presennol yn darparu, mae ymarferwyr mor rhwystredig â ni gyda’r ffaith nad yw’r Fframwaith yn darparu. Mae’r Mesur yn cynnig cyfle am lwybr effeithiol er mwyn mynd i’r afael â materion plant a phobl ifanc.
“Petawn yn mynd ati i apelio at eich emosiynau, buaswn yn dweud: ‘Peidiwch â siomi’n plant’. Rhaid i ni sicrhau ein bod yn cael hyn yn iawn.”
Am fwy o wybodaeth am y Comisiynydd Plant i Gymru, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.childcom.org.uk/
Am drawsgrifiad o dystiolaeth heddiw, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-perm-leg/bus-committees-third-lc3-agendas.htm