“Gofalwyr yn colli allan ar seibiant a’n dioddef yn waeth yn ariannol.”

Mae arolwg gan Gynhalwyr Cymru, sydd yn cydfynd gydag Wythnos Gofalwyr (Mehefin 14 – 20), wedi canfod bod mwy na thri chwarter o bobl yng Nghymru sydd yn gofalu ar ôl anwylyn sâl, brau neu anabl yn dweud nad oes bywyd ganddynt y tu allan i’w rôl gofalu.

Yn ôl yr elusen, mae nifer o ofalwyr yn cael eu gadael wedi eu hynysu ac yn unig, gan golli allan ar cyfleoedd y mae eraill yn eu cymryd yn ganiataol.

Canfu’r arolwg fod:

• 79% o ofalwyr yng Nghymru wedi eu gorfodi i roi’r gorau i weithgareddau hamdden neu fynd allan yn gymdeithasol ers dod yn ofalwr.

• 64% wedi gorfod rhoi’r gorau i wyliau rheolaidd.

• 80% yn dweud bod eu dyletswyddau gofalu yn golygu eu bod wedi colli cysylltiad â theulu a ffrindiau.

• pedwar o bob pum gofalwr yn dweud eu bod yn dioddef yn waeth yn ariannol.

• mae bron i hanner wedi eu gorfodi i roi’r gorau i’w swyddi yn sgil cyfyngiadau amser.

Dywedodd Paul Matz, Rheolwr Wythnos Gofalwyr: “Mae gofalwyr angen ac yn haeddu newid. Rydym am weld mynediad gwell at gyngor a gwybodaeth, cyllid gwell ar gyfer seibiannau a chefnogaeth a hyblygrwydd i ofalwyr yn y gweithle.”

Mae’r ymchwil wedi ei gyhoeddi i gydfynd gydag Wythnos Gofalwyr sydd i’w chynnal o Fehefin 14eg i Fehefin 20fed.
Am fwy o wybodaeth ar Wythnos Gofalwyr, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.carersweek.org/

Er mwyn lawrlwytho copi o Gynllun Deg Pwynt i ofalwyr gan yr elusen iechyd meddwl Gymreig Hafal, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.hafal.org/hafal/publications.php