Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, mae Pwyllgor Deddfwriaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru sydd yn craffu Mesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru) wedi cyhoeddi adroddiad heddiw yn cyflwyno argymhellion ar gyfer y Mesur.
Yn yr adroddiad, mae’r Pwyllgor yn argymell:
• Ni ddylai’r Mesur arfaethedig ystyried oedran a dylai ddeddfu ar gyfer darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc yn ogystal ag oedolion
• Mae angen mwy o eglurder ynglŷn â sut y bydd y Mesur yn berthnasol i garcharorion
• Mae angen sicrhau bod adnoddau digonol ar gael “i ddatblygu’r sgiliau a’r gallu sydd eu hangen er mwyn gweithredu’r Mesur arfaethedig yn llwyddiannus”
• Dylid selio pwysigrwydd asesiadau holistaidd wrth sicrhau gwasanaethau ar gyfer cleifion ar y Model Adferiad a dylid pwysleisio hyn yn y Memorandwm Esboniadol, cyfarwyddyd ac unrhyw wybodaeth esboniadol sy’n ymwneud â’r Mesur.
Wrth wneud sylw ar yr argymhellion, dywedodd Alun Thomas, Dirprwy Brif Weithredwr yn Hafal: “Mae ein Haelodau yn croesawu’r argymhellion y dylai Mesur arfaethedig fod yn berthnasol i blant a phobl ifanc a bod angen eglurder o safbwynt sut y bydd y Mesur yn berthnasol i garcharorion.
“Fodd bynnag, mae ein Haelodau yn siomedig fod nifer o’r hawliau y maent wedi bod yn ymgyrchu drostynt wedi eu hanwybyddu.
“Yn fwy pwysig na dim, dewisodd y Pwyllgor i ymwrthod rhag argymell cyfyngiadau amser penodol rhwng atgyfeiriad gan Feddyg Teulu am asesiad i’r asesiad hwnnw’n cael ei gynnal, a rhwng cymhwyso fel claf i gwblhau cynllun gofal. Rydym yn gwybod yn sgil ein profiad fod y fath gyfyngiadau amser o fudd sylweddol i gleifion, ac os ydych yn llwyddo i sicrhau ymyrraeth cyn gynted â phosib, mae’r canlyniadau yn fwy positif o lawer.
“Mae’n hynod syfrdanol nad yw’r Pwyllgor wedi penderfynu argymell yr union gyfyngiadau amser. Mae’n annirnadwy y dylai cleifion orfod aros dau neu dri mis am asesiad a misoedd lawer eto am gynllun gofal. Mae rhoi hawl i bobl – ond heb unrhyw amserlen – yn golygu nad ydynt yn meddu ar yr hawl hwnnw mewn gwirionedd.”
Wedi cyhoeddi’r adroddiad, bydd y Mesur yn cael ei ystyried yn fanwl a bydd unrhyw welliannau yn cael eu cyflwyno gan bwyllgor o Aelodau Cynulliad.