Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yn cyhoeddi “trosolwg o bresgripsiynu gan fferyllwyr yng Nghymru”

Mae dogfen adnodd, sy’n dwyn y teitl ‘Pharmacist Prescribing in Wales: New skill sets, new possibilities’ wedi ei chyhoeddi gan Gymdeithas Fferyllol Frenhinol Prydain Fawr (CFfFPF).

Dywed CFfFPF fod y cyhoeddiad “yn darparu trosolwg cryno o bresgripsynu gan fferyllwyr a’r buddion y mae’n ei ddarparu i gleifion, gweithwyr iechyd proffesiynol a mudiadau”.

O safbwynt iechyd meddwl, mae ‘New Skill sets, new possibilities’ yn cynnwys adran sydd yn gwyntyllu rheoli iechyd meddwl mewn Clinig Clozapine yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Sefydlwyd y clinig ym 2007 er mwyn darparu gwasanaeth dosbarthu un stop i gleifion sydd â sgitsoffrenia (fel afiechyd sy’n gwrthod triniaeth) a seicosis (fel afiechyd sy’n gwrthod triniaeth) yn afiechyd Parkinson.

Mae’r ddogfen adnodd yn datgan: “Mae cyflwyno fferyllwyr-ragnodwyr ar gyfer rheoli Clozapine wedi sicrhau fod cyflyrau cleifion a’u hymateb i therapi a newid meddyginiaeth yn cael eu hadolygu’n rheolaidd ac yn newid mewn ymateb i anghenion clinigol y cleifion.

“Yn sgil llwyddiant y gwasanaeth hwn, mae system apwyntiadau wedi ei chyflwyno ac mae dau glinig wedi eu sefydlu er mwyn delio â’r galw ychwanegol.”

Am fwy o wybodaeth ar ‘Managing Mental Health in a Clozapine Clinic’, cysylltwch os gwelwch yn dda â Suzanne Robinson, Prif Fferyllydd Clinigol ar gyfer Iechyd Meddwl, Suzanne.robinson@wales.nhs.uk

Er mwyn edrych at wefan Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Prydain Fawr, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.rpsgb.org