Mae astudiaeth newydd sydd wedi ei chyhoeddi yn yr Archives of General Psychiatry wedi dod i’r casgliad nad yw pobl ag afiechyd meddwl difrifol yn fwy tebygol o fod yn dreisgar nag unrhyw un arall – oni bai eu bod yn camddefnyddio cyffuriau neu alcohol.
Mae’r astudiaeth, gan Adran Seiciatreg Prifysgol Rhydychen, wedi edrych ar fywydau ac ymddygiad 3,700 o bobl yn Sweden sydd wedi derbyn diagnosis o anhwylder deubegynol. Roedd y tîm, a arweiniwyd gan y seiciatrydd fforensig ymgynghorol Dr Seena Fazel am wyntyllu’r canfyddiad cyhoeddus fod yna gysylltiad rhwng yr anhwylder a throseddau treisgar.
Wrth wneud sylw ar ganfyddiadau’r astudiaeth, dywedodd Dr Fazel: “Mae’n bosib esbonio’r berthynas rhwng troseddau treisgar ac afiechyd meddwl difrifol drwy gamddefnyddio alcohol a sylweddau. Os ydych yn tynnu camddefnyddio sylweddau oddi yno, mae cyfraniad yr afiechyd ei hun yn fychan tu hwnt.
“Mae siŵr o fod yn fwy peryglus i gerdded y tu allan i dafarn yn hwyr yn y nos yn hytrach na cherdded y tu allan i ysbyty lle y mae cleifion wedi eu rhyddhau.”
Dywedodd Dr Fazel fod cleifion ar draws Ewrop wedi eu hail-sefydliadoli oherwydd “y farn hon fod pobl ag afiechyd meddwl yn risg uchel … mae yna lawer o stigma”. Dywedodd mai’r datrysiad fyddai mynd i’r afael â chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol ar draws y boblogaeth gyfan.
Er mwyn darllen mwy am y stori hon, ewch os gwelwch yn dda i: http://archpsyc.ama-assn.org/