Ysbyty iechyd meddwl i ferched yn agor yng Ngogledd Cymru

Mae ysbyty iechyd meddwl i ferched sydd â 24 o welâu wedi’i agor yn swyddogol gan Aelod Seneddol Delyn, David Hanson.

Mae Delfryn Lodge yn Yr Wyddgrug, Sir Fflint, yn anelu i ddarparu lle diogel i ferched wrth iddynt fynd drwy gyfnod o ailsefydlu cyn cael eu hintegreiddio yn ôl i mewn i’r gymdeithas.

Mae’r ganolfan wedi ei hadeiladu ar gampws Yr Wyddgrug sy’n eiddo i’r Grŵp Cambian, lle y mae’r cwmni eisoes yn cynnal uned seiciatryddol i ddynion sydd â 28 o welâu ac yn trin amryw o gyflyrau gan gynnwys sgitsoffrenia, anhwylder sgitso-affeithiol, anhwylder affeithiol deubegynol ac iselder.

Dywedodd Mike McQuaid, Prif Swyddog Gweithrediadau Cambian: “Bydd Delfryn Lodge yn darparu awyrgylch therapiwtig diogel a chyfforddus ar gyfer 24 o ferched i ail-adeiladu eu bywydau a’u sgiliau galwedigaethol fel eu bod yn barod i adennill eu lle o fewn y gymdeithas.”

Am fwy o wybodaeth ar Delfryn Lodge, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.cambiangroup.com/page.aspx?pointerid=a36e772785f54b728cd708bb96dc9656