Roedd cyfreithiau iechyd meddwl Cymreig newydd wedi eu cymeradwyo ddydd Mawrth wedi i Aelodau Cynulliad gymeradwyo’r Mesur Iechyd Meddwl Arfaethedig (Cymru).
Wrth wneud sylw ar bwysigrwydd y ddeddfwriaeth hanesyddol hon, sydd yn deillio o Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol a gyflwynwyd gan gyn Weinidog Iechyd yr Wrthblaid Jonathan Morgan AC ym 2008, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Edwina Hart AC yn ystod dadl a gynhaliwyd yn y Senedd ddydd Mawrth: “Mae’r Mesur hwn yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth sydd yn mynd i arwain at newid aruthrol yn y modd y mae y mae pobl yn cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl a’r modd y maent yn cael eu darparu.”
Dywedodd Ms Hart y bydd y Mesur yn arwain at welliannau yn amseroldeb ac argaeledd y gwasanaethau ar gyfer yr unigolion hynny sydd yn profi problemau iechyd meddwl yng Nghymru ac ychwanegodd: “Rydym yn gobeithio yn y tymor hir y bydd yn arwain o bosib at ostyngiad yn y nifer o unigolion sydd angen gwasanaethau arbenigol neu wasanaethau cleifion mewnol neu o bosib yn gorfod cael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.”
Roedd y ddadl ddoe yn y Senedd yn cynnwys trafodaeth ar un o’r materion pwysicaf i lawer o ddefnyddwyr gwasanaethau yng Nghymru; yr hawl i gael cynllun gofal cynhwysfawr i’r holl bobl sydd yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd.
Cyn y ddadl, roedd defnyddwyr gwasanaethau yn dymuno fod ACau yn cael sicrwydd gan Edwina Hart y byddai’r rheoliadau yn rhagnodi fod cynlluniau gofal yn gorfod bod yn gynhwysfawr ac yn cynnwys holl feysydd pwysig bywyd pobl, sef: iechyd corfforol, meddyginiaeth a thriniaeth arall, arian, bywyd cymdeithasol, llety, hyfforddiant ac addysg, cyflogaeth a pherthnasau gofalu a rhianta.
Ar y mater hwn, dywedodd y Gweinidog: “Rwy’n credu ei fod yn briodol ac yn angenrheidiol fod ymarferwyr yn cynnal asesiadau llawn a dylai’r asesiadau yma ystyried yr wyth maes yma o leiaf… mae’n gywir fod cydlynwyr gofal yn ystyried y meysydd yma pan yn gweithio gyda defnyddwyr gwasanaethau a darparwyr gwasanaethau er mwyn datblygu a chytuno ar ganlyniadau o safbwynt darparu gwasanaethau.”
Wrth ymateb i sylwadau’r Gweinidog, dywedodd Sue Barnes, Eiriolwr Defnyddwyr Gwasanaethau Cenedlaethol yr elusen iechyd meddwl Gymreig Hafal: “Mae’r ffaith fod Aelodau Cynulliad wedi cymeradwyo’r Mesur yn newyddion gwych. Mae’n eiliad hanesyddol i bobl ag afiechyd meddwl a’u gofalwyr yng Nghymru.
“Fodd bynnag, cyn y ddadl ddoe, roedd cleifion a gofalwyr wedi dweud wrthyf mai’r prif ganlyniad yr oeddynt yn dymuno o’r Mesur a’r rheoliadau oedd yr hawl i gael cynllun gofal cynhwysfawr i bawb sydd yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd. Os ydym yn derbyn cynllun gofal priodol, bydd gennym Fesur a fydd yn trawsnewid ac yn gosod Cymru ar y blaen i wledydd eraill yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Pan fydd rheoliadau’r Mesur yn cael eu llunio, mae’n hanfodol eu bod yn cynnwys yr hawl gyfreithiol i gynllunio gofal cynhwysfawr.”
Rhoddwyd y gair olaf yn y ddadl ddoe i Jonathan Morgan.
Dywedodd ef: “Mae’r ddeddfwriaeth hon, sef anterth tair blynedd o waith caled, yn rhoi cyfleoedd newydd i gleifion, pwyslais newydd ar gyrff statudol i weithio gyda’i gilydd ac mae’n rhoi sicrwydd ein hymrwymiad i’r bobl hynny yng Nghymru sydd yn byw â chanlyniadau afiechyd meddwl.”
Bydd y Mesur nawr yn cael ei ddanfon at y Twrnai Cyffredinol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Disgwylir iddo dderbyn Cydsyniad Brenhinol ym mis Rhagfyr.