Defnyddwyr gwasanaethau yn chwarae rhan yn ymchwil iechyd meddwl

Mae grŵp o ddefnyddwyr gwasanaethau o ardal Rhondda Cynon Taf wedi dylunio eu harolwg ar-lein eu hunain gan ofyn i ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl ar draws y DU am eu barn ynghylch ble yn union y dylid gwario’r arian sydd ar gael ar gyfer ymchwil.

Yr amcan yw sicrhau y bydd y canfyddiadau o’r arolwg hwn yn cael eu defnyddio i gynorthwyo defnyddwyr gwasanaethau i gael mwy o ddweud o safbwynt ymchwil iechyd meddwl y dyfodol yng Nghymru.

Mae ymchwil i mewn i faterion iechyd meddwl yn medru, ac yn aml yn newid y modd y mae gwasanaethau yn cael eu darparu. Ond mae’r ymchwil yn cael ei gynnal fel arfer gan weithwyr proffesiynol, meddygon ac ysgolheigion ac mae hyn yn golygu eu bod yn cael dewis y meysydd y maent yn dymuno eu hymchwilio. Mae’r arolwg hwn felly yn gyfle i bobl sydd yn defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl i leisio barn ynghylch y dewisiadau sydd yn cael eu gwneud am yr ymchwil a gynhelir yn eu henwau hwy.

Mae’r grŵp o ddefnyddwyr gwasanaethau sydd wedi dylunio’r arolwg yn cael eu cefnogi gan ymchwilwyr o Brifysgol Morgannwg a gan Interlink a New Horizons. Os ydych yn defnyddio neu wedi defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl felly, mae’r grŵp yn frwdfrydig i ganfod yr hyn yr ydych chi yn ei gredu ac i glywed eich syniadau ynghylch ble y dylid gwario arian ymchwil. Mae ond yn cymryd rhai munudau i gwblhau’r arolwg ar-lein ac mae’n gwbl gyfrinachol ac anhysbys.

Mae’n bosib cymryd rhan drwy fynd i: www.mentalhealthsupport.co.uk ac os oes diddordeb gennych i chwarae mwy o ran mewn ymchwil iechyd meddwl sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr, cysylltwch os gwelwch yn dda â Phil Thomas – philthomas@hafal.org, Helen Rees – hrees@interlinkrct.org.uk neu Christine Wilson – cawilson@glam.ac.uk