Mae adroddiad annibynnol yn ymchwilio i’r modd y dylid darparu gofal cymdeithasol a gwasanaethau yng Nghymru wedi argymell y dylai defnyddwyr dderbyn llawer iawn mwy o wasanaethau sydd wedi’u personoli.
Comisiynwyd yr adroddiad, sy’n dwyn y teitl “From Vision to Action”, gan Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ac mae’n amlygu “gwahaniaethau trawiadol” yn y lefel o wasanaethau y mae defnyddwyr yn medru disgwyl ar hyn o bryd mewn rhannau gwahanol o’r wlad.
Dywedodd yr Athro Geoffrey Pearson, a gadeiriodd y Comisiwn “From Vision to Action”, nad yw’r system bresennol o gynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau ar draws y 22 awdurdod lleol yn gynaliadwy
Ychwanegodd y dylai pobl gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu hiechyd, lles a’r math o ofal sydd angen iddynt dderbyn.
Dywedodd yr Athro Pearson wrth y BBC: “Er gwaetha’r camau sydd wedi eu cymryd yn ddiweddar, mae yna wahaniaethau trawiadol yn parhau yn yr hyn y gall defnyddwyr gwasanaethau ddisgwyl ei gael mewn rhannau gwahanol o’r wlad.
“Hefyd, fe ddaw amser pan ddaw cenhedlaeth newydd o ddefnyddwyr gwasanaethau a fydd yn groyw, yn wybodus, yn meddu ar ymwybyddiaeth well o fod yn ‘gwsmeriaid’ ac a fydd yn galw am wasanaethau o safon uchel.
“Fe welwyd cytundeb ar y cyfan fod y drefn bresennol am gynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau ar draws y 22 awdurdod lleol yn anghynaladwy.”
Wrth wneud sylw ar yr adroddiad, dywedodd Bill Walden-Jones, Prif Weithredwr yr elusen iechyd meddwl Gymreig Hafal y byddai defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl yn croesawu argymhellion yr Athro Pearson am wasanaethau sydd wedi eu personoli.
Dywedodd ef: “Mae Hafal yn cefnogi’r egwyddor o gymorth sydd wedi’i hunangyfeirio. Rydym am sicrhau fod yr hawl gan ddefnyddwyr gwasanaethau i reoli sut y mae’r adnoddau yn cael eu neilltuo a chwarae rhan ganolog yn y modd y mae eu gofal yn cael ei ddylunio a’i ddarparu fel y bydd gwasanaethau yn adlewyrchu’r hyn y mae unigolion yn dymuno mewn gwirionedd, wedi’u selio ar eu hanghenion a’u hoffterau eu hunain.
“Yn anffodus, mae Cymru dipyn ar ei hôl hi o safbwynt mabwysiadu’r agenda ‘bersonoli’. Rwy’n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn cynorthwyo i sicrhau fod gwasanaethau sydd wedi’u personoli yn dod yn rhan o’r norm yn hytrach nag yn eithriad. Mae hyn yn rhywbeth y mae aelodau Hafal yn dymuno ei weld.”
Er mwyn lawrlwytho “From Vision to Action”, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.icssw.org/?lang=en
Er mwyn darllen barn Gwenda Thomas a’r Prif Weinidog Carwyn Jones am yr adroddiad, ewch os gwelwch yn dda i: http://wales.gov.uk/newsroom/healthandsocialcare/2010/socialservices/?lang=en