Roedd gwaith Hafal ar draws y 22 sir yng Nghymru wedi ei arddangos yng nghynhadledd hydref “Ffordd at Adferiad” yr elusen a gynhaliwyd yn Llanfair-ym-Muallt ddoe.
Roedd y gynhadledd yn dynodi uchafbwynt ymgyrch “Ffordd at Adferiad” 2010 Hafal a arweiniodd at fws meicro VW yn teithio o gwmpas holl siroedd Cymru yn canfod yr hyn y mae defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn dymuno’i dderbyn gan wasanaethau lleol.
Roedd y gynhadledd, a fynychwyd gan ddau gant o gynrychiolwyr, wedi cynnwys nifer o seminarau yn ystod y dydd a’r testunau ymhlith eraill yn cynnwys cyflogaeth, gofalwyr a materion pobl ifanc.
Roedd ymwelwyr hefyd wedi cael y cyfle i wyntyllu’r 22 arddangosfa sir ryngweithiol a oedd yn amlygu’r ystod eang o waith sydd wedi ei wneud gan brif elusen Cymru ar gyfer pobl ag afiechyd meddwl difrifol a’u gofalwyr.
Roedd Cadeirydd Hafal Elin Jones wedi crynhoi’r gynhadledd drwy dalu teyrnged i staff Hafal. Dywedodd hi: “Diolch i bawb sydd yn gweithio i Hafal. Pan fo’r diwrnodau yn dywyll, pan ydych yn teimlo’n unig, pan nad ydych yn credu y byddwch yn gwella, rydych chi yno i ddweud wrth y cleientiaid: ‘Ydy, mae’n bosib i chi wneud hyn ac mi wnawn ni hyn gyda’n gilydd.”
Am fwy o wybodaeth am ymgyrch Ffordd at Adferiad Hafal, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.hafal.org/hafal/roadtorecovery.php