Cyfraith iechyd meddwl Gymreig newydd yn derbyn Cydsyniad Brenhinol

Bydd y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) yn derbyn Cydsyniad Brenhinol heddiw sydd yn golygu y bydd cyfraith iechyd meddwl newydd gan Gymru – y cyntaf ers y degfed ganrif pan gafodd pobl ag afiechyd meddwl eu heithrio rhag talu ffioedd gan y Brenin Hywel Dda.

Nod y Mesur yw:

• darparu gwasanaethau iechyd meddwl ynghynt i unigolion sydd yn profi problemau iechyd meddwl er mwyn lleihau’r peryg o ddirywiad pellach yn eu hiechyd meddwl;

• gwneud darpariaeth ar gyfer cynlluniau gofal a thriniaeth i’r rhai hynny sydd mewn gofal iechyd meddwl eilaidd a sicrhau fod y rhai hynny sydd wedi eu rhyddhau cyn hyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd yn medru cael mynediad at y gwasanaethau hynny pan ydynt yn credu fod eu hiechyd meddwl o bosib yn dirywio;

• ymestyn darpariaeth eiriolaeth iechyd meddwl y tu hwnt i’r hyn sydd ei angen ar hyn o bryd.

Dywedodd Sue Barnes, Eiriolwr Defnyddwyr Gwasanaeth Cenedlaethol yr elusen iechyd meddwl Gymreig Hafal: “Mae cymeradwyo’r Mesur yn newyddion gwych: mae’n eiliad hanesyddol i bobl ag afiechyd meddwl a’u gofalwyr yng Nghymru.

“Mae cleifion a gofalwyr wedi dweud wrthyf mai’r prif beth y maent yn dymuno o’r Mesur a’r rheoliadau yw’r hawl i dderbyn cynllun gofal cynhwysfawr i bawb sydd yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd. Os byddwn yn derbyn cynllun gofal priodol, bydd gennym Fesur sydd yn trawsnewid ac yn gosod Cymru ar y blaen i wledydd eraill yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Wrth lunio rheoliadau’r Mesur, mae’n hanfodol eu bod yn cynnwys yr hawl gyfreithiol i gynllunio gofal cynhwysfawr.”

Er mwyn edrych ar y Mesur, cliciwch yma.