Er bod iechyd meddwl yn parhau yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Edwina Hart AC wedi datgan ei bod yn ansicr ynghylch a oes modd y mae cynnal y “momentwm” o ran darparu blaenoriaethau allweddol.
Daeth sylwadau Ms Hart yn dilyn cwestiwn a ofynnwyd gan Helen Mary Jones AC, Cadeirydd Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad Cenedlaethol, yn y Senedd.
Roedd y drafodaeth fel a ganlyn:
Helen Mary Jones: A oes modd i chi gadarnhau mai un o’ch prif flaenoriaethau ar gyfer gweddill cyfnod y Cynulliad hwn yw sicrhau fod modd darparu’r ddeddfwriaeth iechyd meddwl newydd yn effeithiol, ac na fydd cyllid, yn enwedig ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc, a’r datblygiadau sydd wedi eu cynllunio, yn cael eu heffeithio’n andwyol gan yr hinsawdd economaidd bresennol?
Edwina Hart: Mae iechyd meddwl yn parhau yn flaenoriaeth allweddol, yn union fel datblygiad cyfleusterau iechyd meddwl. Mae record dda gennym o safbwynt darparu prosiectau cyfalaf yn y maes hwn. Fel i mi ddangos yn y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol y bore, bydd rhaid ni edrych ar flaenoriaethau a phennu a oes modd cynnal y momentwm yn y maes hwn. Fodd bynnag, bydd neilltuo arian a’r agwedd rymus sydd wedi ei mabwysiadu gennym tuag at wariant iechyd meddwl, yn gwneud gwahaniaeth. Fel i mi ddangos wrth lywio’r ddeddfwriaeth iechyd meddwl, a fu’n brofiad mor bleserus, roedd cefnogaeth drawsbleidiol arbennig gennym o’i phlaid. Golyga hyn y bydd y byd tu allan yn edrych i sicrhau fod yr adnoddau ar gael er mwyn gwneud y ddeddfwriaeth yn realiti.
Er mwyn darllen y ddadl sesiwn lawn, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-rop.htm?act=dis&id=203895&ds=11/2010#q1