Mae Eiriolwr Defnyddwyr Gwasanaethau Hafal wedi annog Aelodau Cynulliad a phawb arall sydd â diddordeb mewn amddiffyn gwasanaethau iechyd meddwl i ‘gadw golwg ar yr addewidion a wneir ynghylch gwariant iechyd meddwl’.
Wrth ysgrifennu yn ei cholofn fisol yn y Western Mail, mae Sue yn datgan er bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gwneud ymrwymiad i amddiffyn gwasanaethau iechyd meddwl yn ei Chyllideb Ddrafft, bydd angen sicrhau fod Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol yn cael eu dal yn atebol.
Ysgrifenna Sue: “Mae’n ddadleuol iawn fel arfer i geisio amddiffyn un maes o wariant cyhoeddus ar draul un arall.
“Rwy’n credu ei fod yn hollol gywir i ddadlau y dylid rhoi blaenoriaeth i bobl ag afiechyd meddwl difrifol, a hynny ar sail foesol – maent ymhlith y bobl sydd fwyaf agored i niwed – ac am y rheswm syml eu bod yn dibynnu llawer iawn yn fwy ar gyllid sector cyhoeddus na phobl eraill.”
Er mwyn darllen colofn Sue yn llawn, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.walesonline.co.uk/news/health-news/2011/01/24/keep-a-check-on-promises-made-about-mental-health-spending-91466-28041133/
Am fwy o wybodaeth ar Hafal, ewch os gwelwch yn dda i: www.hafal.org