Adroddiad ar Hunanladdiad yn Beirniadu Bwrdd Iechyd Caerdydd

Adroddiad ar Hunanladdiad yn Beirniadu Bwrdd Iechyd Caerdydd
Mae adroddiad gan yr Ombwdsmon i Gymru i mewn i hunanladdiad gŵr ym 2008 wedi beirniadu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Roedd mam wedi cwyno am safon y gofal a roddwyd i’w mab diweddar gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl ychydig cyn iddo ladd ei hun yn Hydref 2008.

Roedd ymchwiliad yr Ombwdsmon wedi canfod:

• Ymddengys fod y trothwy ar gyfer cael mynediad at wely ysbyty yn uchel, a hynny o ystyried nad oedd diffiniad na chanllawiau polisi clir ar gael ynghylch beth oedd yn cael ei ystyried yn “achos difrifol” a oedd yn teilyngu mynediad.

• Roedd y bar uchel yn effeithio ar y ffordd yr ymdriniwyd â’r gŵr. Roedd hyn yn amlwg iawn yn syth ar ôl iddo ddychwelyd o’i daith gyda’i fam, pan oedd wedi niweidio’i hun.

• Nid oedd dim canllawiau clir ar gael ynghylch beth ddylai ddigwydd pan fyddai cleifion, a oedd wedi’u rhyddhau’n ddiweddar o ofal y Tîm Argyfwng, yn cyflwyno’u hunain yn nesg flaen ysbyty, y tu allan i oriau swyddogol, yn gofyn am fynediad.

Fodd bynnag, nid oedd yr Ombwdsmon wedi cyfiawnhau’r gŵyn fod prinder gwelyau wedi dylanwadu ar y penderfyniad i beidio â derbyn y gŵr, gan ei fod yn fodlon y gellid fod wedi dod o hyd i wely yn rhywle arall pe bai angen.

Wrth wneud sylw ar yr adroddiad, dywedodd Bill Walden-Jones, Prif Weithredwr yr elusen iechyd meddwl Gymreig Hafal:

“Mae’n rhaid i’r Ombwdsmon i gyfyngu ei sylwadau i agweddau weddol dechnegol o’r achos ac rwy’n credu ei fod wedi dod i’r casgliadau cywir yma.

“Fodd bynnag, mae yna oblygiadau ehangach hefyd. Rwy’n credu fod mam y gŵr hwn wedi bod yn ddewr drwy gyflwyno cwestiwn i’r cyhoedd yn gyffredinol: os oes rhywun yn eich teulu chi yn teimlo’n hynod isel ac wedi ceisio lladd ei hunan fwy nag unwaith yn y diwrnodau a’r wythnosau diweddar, a’i fod wedyn yn gwneud cais am fynediad i’r ysbyty, beth ddylai ddigwydd?

“Credaf y byddai’r rhan fwyaf o bobl resymol yn dweud y dylid caniatáu mynediad i’r person neu mi ddylai fod yna wasanaeth hyblyg ar gael sydd yn sicrhau fod rhywun ar gael i aros gyda’r person tan fod yr argyfwng drosodd.

“Mae yna ddiffyg yn y strategaeth hunanladdiad yng Nghymru – mae’n canolbwyntio ar ymyrryd yn y cyfnodau cynnar, sydd yn bwysig wrth gwrs; ond mae modd gwneud llawer iawn hefyd yn y cyfnod hwyr pan fod claf mewn peryg sylweddol, fel sydd yn amlwg yn yr achos hwn.”

Er mwyn darllen yr adroddiad llawn, cliciwch yma.