Un o’r gwasanaethau cymorth mwyaf gwerthfawr sydd ar gael i blant yng Nghymru yw gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Nod y gwasanaeth, a gyflwynwyd ym 2008, yw sicrhau darpariaeth gwnsela ar gyfer yr holl ddisgyblion ysgol fel bod modd iddynt droi at rywun os oes angen help neu gymorth arnynt ar faterion megis iechyd meddwl, materion teuluol, profedigaeth, anhwylderau bwyta, bwlio a pherthnasau. Ar hyn o bryd, mae’r gwasanaeth ar gael ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru; mae yna gynlluniau peilot yn cael eu cynnal mewn ysgolion cynradd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Sir Benfro a Wrecsam.
Ym mis Ionawr, roedd John Gilheaney, ein Swyddog Gwybodaeth i Bobl Ifanc, wedi cwrdd â Sylvia Jones, Cydlynydd Cwnsela mewn Ysgolion Llywodraeth Cynulliad Cymru, er mwyn trafod sut y mae’r gwasanaeth yn medru cynorthwyo pobl ifanc ag afiechyd meddwl difrifol yng Nghymru.
JG: Un o’r ffyrdd allweddol i fynd i’r afael ag afiechyd meddwl difrifol yw sicrhau fod yr afiechyd yn cael ei adnabod yn gynnar. Sut y mae eich gwasanaeth chi yn cynorthwyo yn hyn o beth?
SJ: Mae cwnsela mewn ysgolion yn wasanaeth atal ymyrraeth gynnar oherwydd mae’n ceisio atal problemau rhag datblygu gan gynnwys afiechyd meddwl difrifol. Mae’n ymwneud â sicrhau fod y person ifanc yn derbyn cymorth ynghynt.
Mae’r ffigurau diweddaraf o dymor yr haf yn dangos fod 2,292 o bobl ifanc wedi cwblhau cwnsela yng Nghymru. O’r rhain, roedd 60 wedi eu hatgyfeirio at Wasanaethau Iechyd Meddwl i Blant ac Oedolion sydd yn ganran fechan ond sylweddol; mae’n bosib na fyddai’r achosion yma wedi dod i’r amlwg pe na bai cwnsela’n cael ei ddarparu.
Yn fy ngwaith, rwyf wedi ceisio pwysleisio pa mor bwysig yw ein bod yn datblygu ein cymorth i bobl ifanc mewn partneriaeth. Nid yw’n ymwneud yn unig â’r cwnselwyr yn mynd i mewn i’r ysgol, yn gweld y person ifanc ac yna’n gadael. Rhaid i gwnselwyr weithio gydag eraill – er bod yr hyn sydd yn cael ei drafod yn yr ystafell gwnsela yn gyfrinachol – mae’r perthnasau gyda’r ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill yn allweddol o safbwynt sicrhau fod y gwasanaeth hwn yn llwyddo.
Mae’r swm o arian sydd wedi ei fuddsoddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yng nghwnsela mewn ysgolion yn cydnabod fod angen i ni ddelio gyda materion ynghynt a bod angen i ni ddelio â hwy mewn partneriaeth.
JG: Sut y mae eich gwasanaeth mynd i’r afael â gwahaniaethu?
SJ: Mae hwn yn fater anferth. Mae rhan o’n dull yn dibynnu ar sut y mae cwnsela mewn ysgolion yn cael ei hyrwyddo o fewn yr ysgol. Mae gweithredu system ‘cyfeillion’ neu edrych ar DVDs cyfarwyddiadol sydd yn dangos ei fod yn hollol dderbyniol i fynd i weld cwnselydd yn gryn dipyn o gymorth. Mae’n gwneud synnwyr i siarad am eich problemau.
Mae’n mynd i gymryd cryn amser i newid agweddau ond os oes pawb yn chwarae eu rhan, bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth. Mae yna gryn wahaniaethau o safbwynt iechyd meddwl ac mae angen i ni ddelio â hyn er mwyn sicrhau fod pobl ifanc yn gwybod ei fod yn iawn iddynt drafod yr hyn sydd ar eu meddyliau.
Mae cwnselwyr gennym yn ein holl ysgolion uwchradd. Rydym yn ceisio sicrhau fod y gwasanaeth yn colli’r stigma sy’n gysylltiedig ag ef fel bod pobl ifanc yn teimlo’n iawn i siarad am eu problemau, ei fod mor hawdd iddynt weld cwnselydd ag ydyw i weld nyrs neu lyfrgellydd yr ysgol.
Am fwy o wybodaeth am wasanaethau cwnsela mewn ysgolion yng Nghymru, ewch os gwelwch yn dda i,