Mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Edwina Hart AC wedi ysgrifennu at Gadeiryddion Byrddau Iechyd Lleol GIG yng Nghymru er mwyn eu hysbysu o’r Fframwaith Ansawdd Blynyddol (FfAB) newydd.
O safbwynt iechyd meddwl, mae’r FfAB yn datgan:
• “Erbyn diwedd Mawrth 2011, rhaid bod mudiadau wedi cytuno a gosod set o dargedau lleol ar gyfer cyflwyno’r canlynol ym 2011/12: Cynnydd yn y nifer o bobl sydd yn byw’n annibynnol yn y cartref neu yn eu trigfan arferol, yn enwedig, cleifion ag afiechyd meddwl…” (tudalen 7)
• “cydymffurfiaeth lwyr gyda’r Dull Rhaglen Ofal (DRhO) ar draws yr holl grwpiau oedran, a gweithredu’r targedau deallus ar gyfer dementia ac iselder.” (tudalen 8 )
• “Disgwylir i fudiadau i baratoi gweithredoedd mewn perthynas ag ymrwymiadau ac anghenion cyfredol y llywodraeth o safbwynt… Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Blant a’r Glasoed (CAMHS).” (tudalen 11 )
Yn ei llythyr i Gadeiryddion, mae Ms. Hart yn datgan: “Mae strwythurau’r Byrddau Iechyd Lleol newydd yn caniatáu ffyrdd newydd o ddatrys heriau cyfredol…ac yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i’r GIG i arloesi a gwella gwasanaethau.” Wrth ddod i’w chasgliad, dywed: “Rwyf yn disgwyl i chi i sicrhau bod eich mudiadau ymwybodol o’u cyfrifoldebau a’u bod yn diwallu anghenion y FfAB.”
Wrth ddehongli’r hyn y mae’r FfAB yn ei olygu i ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl, dywedodd Prif Weithredwr Hafal, Bill Walden-Jones: “Mae’r Llywodraeth yn gywir i adnabod mai’r flaenoriaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yw cyrraedd y safon sydd ei angen er mwyn cynorthwyo pobl sydd yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd i fyny – dyma’r hyn a olygir gan gydymffurfio â’r DRhO.”
Er mwyn lawrlwytho copi o’r FfAB newydd, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.wales.nhs.uk/sites3/Documents/490/Final%20AQF%202011-12%20%2024%2001%2011.pdf
Am fwy o wybodaeth am y Dull Rhaglen Ofal yng Nghymru, ewch os gwelwch yn dda i: http://wales.gov.uk/topics/health/publications/health/guidance/cpa/?lang=en
Am wybodaeth ar Hafal, ewch os gwelwch yn dda i: www.hafal.org