Adroddiad yn honni fod defnyddio canabis yn cynyddu’r peryg o seicosis

Mae’r canlynol yn erthygl o Ganolfan Wybodaeth i Bobl Ifanc Hafal a ariennir gan y Loteri Fawr. Er mwyn cael mynediad at y Ganolfan, cliciwch yma.

Mae adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi yn y British Medical Journal wedi awgrymu fod defnyddio canabis yn eich arddegau neu fel oedolyn ifanc yn cynyddu’r peryg o seicosis.

Roedd yr astudiaeth yn cynnwys 1,900 o bobl (rhwng 14 a 24 mlwydd oed) dros gyfnod o ddeng mlynedd a chanfuwyd fod defnyddio canabis wedi cynyddu’r peryg o symptomau seicosis “yn sylweddol” hyd yn oed pan ystyriwyd ffactorau eraill megis statws economaidd-gymdeithasol, defnydd o gyffuriau gwahanol a chyflyrau seiciatryddol eraill.

Dywedodd Syr Robin Murray, Athro mewn Ymchwil Seiciatrig yn y Sefydliad Seiciatreg, fod yr astudiaeth wedi ychwanegu “bricsen arall i’r mur o dystiolaeth” sydd yn dangos fod defnydd traddodiadol o ganabis yn rhannol gyfrifol am seicosis megis sgitsoffrenia
Am fwy o wybodaeth, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.bmj.com/content/342/bmj.d738