Adroddiad y Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl yn dweud nad oes yna ddigon o welâu ysbyty diogel yn Lloegr yn sgil diffyg gofal camu-i-lawr

Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan y Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl yn awgrymu fod carcharorion yn Lloegr yn methu â chael mynediad at ofal ysbyty brys am nad oes yna wasanaethau ysbyty diogel ar gael yn sgil diffyg gwasanaethau cymunedol a chamu-i-lawr. 

Mae’r adroddiad, “Pathways to Unlocking Secure Mental Health Care,” yn canfod fod gwasanaethau iechyd meddwl diogel yn amrywio’n sylweddol ar draws Lloegr o safbwynt pwy sydd yn cael eu derbyn a pha gefnogaeth sydd yn cael ei darparu ganddynt. Mae’r adroddiad hefyd yn canfod fod carcharorion – yn sgil absenoldeb unrhyw safonau a chanllawiau cenedlaethol ar ofal diogel – yn aml yn cael eu hasesu droeon gan nifer o arbenigwyr cyn cael eu derbyn i’r ysbyty. 

 Mae’r adroddiad yn gwneud 15 argymhelliad er mwyn gwneud gwasanaethau diogel yn fwy effeithlon ac yn well o safbwynt gwerth am arian.

Er mwyn lawrlwytho “Pathways to Unlocking Secure Mental Health Care,” cliciwch yma.