Mae’r pumed cyfrifiad blynyddol “Count Me In” sydd wedi ei gyhoeddi heddiw ac yn monitro cleifion iechyd meddwl mewnol (hynny yw, cleifion sydd mewn ysbytai) yn Lloegr a Chymru, yn dangos fod pobl o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn parhau i gael eu gorgynrychioli mewn ysbytai iechyd meddwl.
Canfu’r adroddiad fod:
• 23% o gleifion mewnol mewn gwasanaethau iechyd meddwl ym 2010 yn perthyn i grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a bod y cyfraddau derbyn yn parhau’n uwch na’r cyfartaledd ymhlith rhai grwpiau ethnig lleiafrifol, yn enwedig grwpiau Du a Gwyn/Du Cymysg.
• Mae’r cyfraddau o gadw unigolion mewn ysbytai o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl dipyn yn uwch na’r cyfartaledd ymhlith grwpiau Du, Gwyn/Du, Caribî, Cymysg a grwpiau Gwyn Eraill (ond nid mewn grwpiau ethnig eraill) a bod y cyfraddau ar gyfer cleifion sydd wedi eu cadw yn yr ysbyty a’u gosod ar orchymyn triniaeth gymunedol yn uwch ymhlith grwpiau de Asaidd a Du.
• Er bod yna amrywiadau wedi bod mewn cyfraddau neilltuaeth, maent wedi bod ar y cyfan yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer grwpiau Du a Gwyn/Du Cymysg a grwpiau Gwyn Eraill. (Neilltuaeth yw cadw person o dan oruchwyliaeth mewn ystafell sydd o bosib wedi ei chloi er mwyn diogelu eraill rhag niwed sylweddol.)
At hyn, mae’r cyfrifiad yn datgelu nad oedd 77% o gleifion mewnol sydd yn fenywod mewn wardiau wedi eu dynodi ar gyfer un rhyw ym 2010.
Mae’r adroddiad llawn i’w gyhoeddi ar: http://www.cqc.org.uk/