Mae HowTheLightGetsIn, gŵyl athroniaeth a cherddoriaeth sydd wedi ei lleoli yn y Gelli Gandryll, yn mynd i gynnal trafodaethau a dadleuon ar iechyd meddwl a seiciatreg yn eu digwyddiad sydd i’w gynnal rhwng Mai 26ain a Mehefin 5ed.
Mae testunau ar gyfer y dadleuon yn cynnwys y canlynol:
Y Farwnes Molly Meacher, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Dwyrain Llundain a chyn Gomisiynydd y Ddeddf Iechyd Meddwl, ar ddarpariaeth celfyddydau yn y dyfodol mewn gofal iechyd meddwl.
http://www.howthelightgetsin.org/tickets/#creating-change
Richard Bentall, sef beirniad llafar o seiciatreg, ar ‘Pam fod Cymdeithas yn eich Arwain yn Gandryll’, sydd yn awgrymu fod anghydraddoldeb cymdeithasol, hiliaeth a’r amgylchedd sydd wedi ei adeiladu o’n cwmpas yn chwarae rôl tipyn mwyn sylweddol o safbwynt afiechyd meddwl na’r hyn a gydnabyddir gan y sefydliad biofeddygol.
http://www.howthelightgetsin.org/tickets/#why-society-drives-you-mad
Buddion therapiwtig sylweddol a ddaw yn sgil canu. Mae’r Athro Stephen Clift yn olrhain y stori o’i brosiect yn sefydlu corau ar gyfer pobl sydd yn dioddef o ddementia a bydd yn arwain y gynulleidfa mewn gweithdy ar dechnegau llais therapiwtig.
http://www.howthelightgetsin.org/tickets/#awakening-the-voice
Am fwy o wybodaeth ar y digwyddiad, ewch os gwelwch yn dda i: www.howthelightgetsin.org