Roedd “Cymryd y Llyw”, ymgyrch unigryw a arweinir gan ddefnyddwyr gwasanaethau ac sydd yn anelu i ymrymuso pobl ag afiechyd meddwl difrifol yng Nghymru i gymryd rheolaeth o’u bywydau a’r gwasanaethau y maent yn eu derbyn, wedi ei lansio ddoe mewn Seminar arbennig yn Llanfair-ym-Muallt.
Trefnwyd y Seminar gan bobl sydd â phrofiad o fyw ag afiechyd meddwl difrifol ac fe’i hystyriwyd yn gryn lwyddiant gan y sawl a fynychodd.
Bydd Hafal a MDF the Bipolar Organisation Cymru, sef mudiadau sydd yn cael eu harwain gan ddefnyddwyr gwasanaethau, yn gweithio mewn partneriaeth â’r Sefydliad Iechyd Meddwl er mwyn cefnogi’r ymgyrch a fydd yn ymrymuso pobl ag afiechyd meddwl difrifol:
• I neidio yn y sedd yrru o safbwynt rheoli eu hadferiad eu hunain o
afiechyd meddwl difrifol.
• I wneud defnydd o’u hawliau newydd o dan y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru).
• I wneud dewisiadau am y gofal a’r driniaeth y maent yn derbyn – a
phwy sydd yn eu darparu.
• I ddatblygu a rheoli gwasanaethau eu hunain.
• I ymgysylltu â darparwyr gwasanaethau iechyd meddwl fel eu bod yn medru chwarae rhan yn y broses o gynllunio a chomisiynu gwasanaethau iechyd meddwl.
Am fwy o wybodaeth am “Cymryd y Llyw”, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.hafal.org/hafal/taking-the-wheel.php
Mae lluniau o’r Seminar i’w gweld yma: http://en-gb.facebook.com/pages/Hafal/131232186903160