Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi mynegi pryderon difrifol ynghylch digonolrwydd y gofal a’r driniaeth a roddwyd i Martyn Davies, defnyddiwr gwasanaeth a fu’n gyfrifol am laddiad ym mhentref Llanbradach, Caerffili ym Mawrth 2009.
Mae’r pryderon a amlygwyd yn yr adroddiad o ran y gofal a thriniaeth a roddwyd i Mr Davies (a gyfeirir ato fel Mr H) yn cynnwys:
* Roedd llawer iawn o dystiolaeth ar gael i ddangos y byddai Mr H, mewn argyfwng, yn debygol o’i niweidio ei hun neu eraill.
* Mae’n bosibl iawn y gellid bod wedi atal y lladdiad.
*Cafwyd llawer o ddiffygion o ran gofal a thriniaeth Mr H dros nifer o flynyddoedd, yn ogystal â methiannau gan wahanol sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol a darparwyr gofal.
* Collwyd cyfleoedd ym mis Ionawr a mis Chwefror 2009 i Mr H gael ei dderbyn i ysbyty naill ai fel claf anffurfiol neu dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Mewn ymateb i’r adroddiad, mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi Cynllun Gweithredu sydd yn adnabod sut y mae modd mynd i’r afael â’r canfyddiadau. Mae gweithrediadau posib yn cynnwys:
* Datblygu llwybr pontio integredig cyfun o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion sydd yn manylu rolau a chyfrifoldebau pob un gwasanaeth yn llawn a’r gweithrediadau sydd i’w cymryd yn ystod y cyfnod pontio.
* Sicrhau fod yr holl dimau yn meddu ar brotocolau rhannu gwybodaeth a chanllawiau sydd yn egluro anghenion ac amserlenni o safbwynt rhannu a throsglwyddo gwybodaeth.
* Sicrhau bod yna drefniadau ôl-gofal i bob un claf sydd yn destun i 117, a hynny’n barod erbyn iddynt gael eu rhyddhau i lety diogel gyda gwely GIG neu wasanaeth amgen.
Dywedodd Alun Thomas, Prif Weithredwr yr elusen iechyd meddwl Gymreig Hafal: “Mae hwn yn adroddiad syfrdanol sydd yn nodi methiannau hynod anhygoel yn y gwasanaethau, yn enwedig y penderfyniadau hynny nad oes modd eu hamddiffyn a wnaed gan yr ysbyty arbenigol ynghlwm wrth y sefyllfa. Byddwn yn gwylio Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ofalus iawn er mwyn sicrhau eu bod yn gweithredu’r hyn sydd yn eu Cynlluniau Gweithredu. Os caiff ei weithredu’n gywir, rydym hefyd yn gobeithio y bydd y ddeddfwriaeth iechyd meddwl Gymreig newydd, sydd yn dod i rym cyn hir ac yn canolbwyntio ar roi hawliau i ddefnyddwyr gwasanaethau i dderbyn gofal a thriniaeth amserol ac effeithiol, yn chwarae rhan allweddol wrth atal y fath drasiedïau â hyn rhag digwydd yn y dyfodol.”
Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Dr Peter Higson: “Mae ein hadolygiad wedi amlygu llawer o bryderon ynglŷn â’r gofal a’r driniaeth a roddwyd i Mr H am flynyddoedd lawer. Yn benodol, ni chafodd y broses o ryddhau Mr H o’r ysbyty ym mis Hydref 2008, yn dilyn cyfnod hir o gael ei gadw’n gaeth dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, ei rheoli’n briodol. Ar ôl ei ryddhau, collwyd cyfres o gyfleoedd i ddarparu gofal gwell a mwy strwythuredig ar gyfer Mr H. Er ei bod yn amlwg fod y Tîm Allgymorth Pendant wedi ceisio darparu cymorth i Mr H yn ystod yr wythnosau yn arwain at y digwyddiad trist hwn, dim ond yn ystod dyddiau’r wythnos yr oedd y gwasanaeth ar gael, ac o ganlyniad, nid oedd yn ddigonol i ddiwallu anghenion cymhleth Mr H.”
Er mwyn darllen yr adroddiad, cliciwch yma.