Cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer carcharorion sydd ag afiechyd meddwl yn “annhebygol o gael eu cyflawni”.

Mae ymchwil gan Brifysgol y Queen Mary yn Llundain wedi awgrymu fod cynlluniau’r Llywodraeth i ddargyfeirio mwy o bobl sydd ag afiechyd meddwl i ffwrdd o’r system cyfiawnder troseddol ac i mewn i’r gwasanaethau iechyd meddwl yn annhebygol o gael eu cyflawni.

Mae ymchwilwyr yn amcangyfrif fod mwy na 8,000 o garcharorion â sgitsoffrenia a seicosis eraill mewn carchardai yn Lloegr a Chymru. Pe baent yn cael eu trosglwyddo i ysbytai, maent yn datgan y byddai rhaid trin y cleifion o dan amodau diogelwch. Fodd bynnag, byddai nifer y carcharorion sydd ag afiechyd meddwl yn “gorlethu” y gwelâu diogelwch cymedrol sydd ar gael.

Mae’r astudiaeth, a oedd yn cynnwys pob un o’r 131 carchar yn Lloegr a Chymru, wedi canfod mai ond 1 mewn 10 o garcharorion seicotig sydd yn derbyn triniaeth ar gyfer eu hafiechydon ar hyn o bryd yn y carchar ac mae llai na thraean sydd wedi eu trin mewn ysbyty seiciatrig.

Dywedodd mwy na thraean nad oeddynt byth wedi derbyn unrhyw driniaeth seiciatrig sydd yn golygu ei fod yn annhebygol iawn y byddant yn derbyn triniaeth ac unrhyw ofal ar ôl eu rhyddhau.

Yn Rhagfyr 2007, roedd y llywodraeth wedi comisiynu’r Arglwydd Bradley i edrych ar sut i ddargyfeirio pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl ac anableddau dysgu i ffwrdd o’r system cyfiawnder troseddol.

Dywedodd yr Athro Jeremy Coid a arweiniodd yr astudiaeth: “Mae gwasanaethau iechyd meddwl seiciatreg a charchardai yn methu’r carcharorion hynny sydd ag afiechyd meddwl difrifol. Awgryma ein tystiolaeth fod argymhellion yr Adroddiad Bradley i ddargyfeirio mwy o bobl sydd ag afiechyd meddwl allan o’r system cyfiawnder troseddol ac i mewn i wasanaethau iechyd meddwl yn annhebygol o gael eu cyflawni.”

Am fwy o wybodaeth, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.qmul.ac.uk/media/news/items/smd/49542.html