Llyfr canllaw iechyd meddwl yn cael ei roi i bêl-droedwyr

Mae’r canlynol yn eitem newyddion o Ganolfan Wybodaeth i Bobl Ifanc Hafal a ariennir gan y Loteri Fawr. Er mwyn cael mynediad at y Ganolfan, cliciwch yma os gwelwch yn dda.

Er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ymhlith prif bêl-droedwyr Prydain, bydd chwaraewyr yn y pedair prif gynghrair yn derbyn ‘The Footballers’ Guidebook’ ar ddechrau tymor nesaf.

“Mae siarad am broblemau iechyd meddwl wedi bod yn un o dabŵs mwyaf chwaraeon,” dywed amddiffynnwr Burnley a chadeirydd y Gymdeithas Chwaraewyr Proffesiynol (PFA) Clarke Carlisle. “Pan gafodd y paffiwr Frank Bruno ei gadw yn yr ysbyty o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, roedd y wasg wedi defnyddio’r pennawd ‘Bonkers Bruno locked up’ – o gofio’r agwedd hon, nid yw’n syndod mai pur anaml yr ydym yn gweld dynion a menywod ym myd chwaraeon yn gwneud unrhyw gyfaddefiad gwirfoddol am iechyd meddwl.

“Efallai nad yw nifer o chwaraewyr yn adnabod beth ydyw neu’n gwybod sut i chwilio am gymorth. Rwy’n credu fod y canllaw hwn yn torri cwysi newydd i chwaraewyr ac mae’n gam cyntaf tuag at siarad am iechyd meddwl ym myd pêl-droed proffesiynol.”

Am fwy o wybodaeth am y ‘The Footballers Guidebook’, ewch os gwelwch yn dda i: http://tiny.cc/bpp66