“Y Posibilrwydd o ail-asesu Budd-dal Analluogrwydd yn peri trallod sylweddol”

Mae llythyr sydd wedi ei arwyddo gan Brif Weithredwr Hafal, Bill Walden-Jones, ar yr effeithiau “dinistriol” y mae diwygio’r system les yn ei gael ar iechyd meddwl cannoedd ar filoedd o bobl ar draws Prydain Fawr, wedi ymddangos yn The Guardian yr wythnos hon.

Mae’r llythyr fel a ganlyn:
“Mae diwygio’r system les yn bwrw rhagddi ac rydym eisoes yn clywed am yr effeithiau dinistriol y mae hyn yn ei gael ar iechyd meddwl cannoedd ar filoedd o bobl ar draws Prydain Fawr. Tra bod llawer o son am yr effaith y bydd y newidiadau i fudd-daliadau yn ei gael ar bobl ag anableddau corfforol, mae’n hanfodol nad ydym yn anghofio am y rhai hynny sydd â phroblemau “anweladwy” megis iechyd meddwl. Mae’r broses o ail-asesu pobl sydd ar fudd-dal analluogrwydd – drwy’r asesiad gallu i weithio sydd yn hynod ddiffygiol – i gychwyn mis nesa ac mae’r prawf taliad annibyniaeth bersonol yn cael ei arbrofi dros yr haf – dyma rai o’r newidiadau yn unig sydd yn peri dychryn i bobl sydd wedi eu heffeithio gan boen meddwl.

“Rydym wedi canfod fod y posibilrwydd o ail-asesu budd-dal analluogrwydd yn peri trallod sylweddol, ac mae yna achosion trasig eisoes lle y mae pobl wedi lladd eu hunain yn dilyn problemau a ddaw yn sgil newidiadau i’w budd-daliadau. Rydym yn hynod bryderus fod y system fudd-daliadau yn mynd i gyfeiriad a fydd yn gosod pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl o dan fwy o bwysau a bod rhaid iddynt ddioddef craffu pellach, a hynny ar adeg pan eu bod eisoes yn cael eu heffeithio’n andwyol mewn meysydd eraill megis toriadau i wasanaethau.

“Mae angen symud tuag at system fwy sympathetig a chefnogol sydd wir yn ystyried yr heriau ychwanegol y mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn eu hwynebu ac sydd yn medru cynnig asesiad gwrthrychol go iawn o’u hanghenion yn hytrach na’u gosod mewn sefyllfa lle y mae yna beryg i’w lles.”

Wedi’i arwyddo gan: Paul Farmer Prif Weithredwr, Mind, Paul Jenkins Prif Weithredwr, Rethink Mental Illness, Yr Athro Bob Grove Prif Weithredwr ar y Cyd, Y Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl, Dr Jed Boardman Ymgynghorydd ac uwch ddarlithydd mewn seiciatreg gymdeithasol, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, Bill Walden-Jones Prif Weithredwr, Hafal, Billy Watson Prif Weithredwr, Cymdeithas yr Alban ar gyfer Iechyd Meddwl
Am fwy o wybodaeth ar Hafal, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.hafal.org/hafal/cymraeg/index.php

Er mwyn darllen blog Bill Walden-Jones, ewch os gwelwch yn dda i: http://billwaldenjones.blogspot.com/