Cyhoeddi cynlluniau ar gyfer “Canolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl”

Mae cynlluniau ar gyfer canolfan iechyd, sydd am geisio deall yr hyn sydd yn achosi ystod o afiechydon meddwl, wedi eu cyhoeddi.

Bydd y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yn derbyn £3m o gyllid gan Lywodraeth Cymru a bydd yn canolbwyntio ar gyflyrau megis sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol, iselder ac anhwylder straen wedi trawma.

Mae’r uned yn gydweithrediad rhwng y brifysgol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a bydd yn cael ei harwain gan yr Athro Nick Craddock o Brifysgol Caerdydd.

Mae’r Athro Craddock, arbenigwr ar anhwylder deubegynol, wedi dweud wrth BBC Cymru: “Mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl angen help a chymorth er mwyn eu galluogi i ymdopi â’u salwch. 

“Bydd y buddsoddiadau yma yn gwneud cyfraniad sylweddol i’n dealltwriaeth ni o’r ystod o afiechydon cyffredin.

“Mae problemau iechyd meddwl yn medru effeithio ar unrhyw un – beth bynnag yw eu hoedran, hil, rhyw neu gefndir cymdeithasol.

“Dyna paham ei fod yn hanfodol fod canolfan genedlaethol gennym sydd yn dod â gweithwyr proffesiynol rheng-flaen o bob rhan o Gymru ynghyd gydag academyddion er mwyn cynorthwyo i ddatblygu’r triniaethau gorau posib ar gyfer cleifion Cymreig.”

Yn gweithio gyda chleifion iechyd meddwl, bydd y ganolfan yn anelu i ddeall yr hyn sydd yn achosi afiechyd meddwl.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i gadarnhau safle Cymru ar lwyfan byd-eang fel gwlad sydd ar flaen y gad o ran ymchwil a datblygu.

“Mae’n hanfodol fod Cymru’n denu’r academyddion ymchwil, gweithwyr iechyd proffesiynol, myfyrwyr a busnesau o’r ansawdd uchaf, a’i bod yn cadw’r arbenigedd hwnnw.

“Mae’r wybodaeth a enillwyd yn sgil dull cydweithredol o weithio rhwng y GIG a phrifysgolion yn meincnodi Cymru fel un o’r goreuon yn y byd am ymchwil iechyd a gwyddorau bywyd.”

Am fwy o wybodaeth ar y stori hon, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-14121578