Mae’r canlynol yn eitem newyddion o Ganolfan Wybodaeth i Bobl Ifanc Hafal a ariennir gan y Loteri Fawr. Er mwyn cael mynediad at y Ganolfan, cliciwch yma os gwelwch yn dda.
Mae ystadegau gan Brifysgol Durham wedi canfod fod gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru i’w “gweld” yn dangos arwyddion o welliant.
Mae canfyddiadau’r brifysgol o ran darpariaeth Gwasanaethu Iechyd Meddwl Arbenigol i Blant a Phobl Ifanc (CAMHS Arbenigol) yn darparu data a gasglwyd rhwng 2007 a 2011.
Mae’r canfyddiadau allweddol yn cynnwys:
- Cynnydd o 25% yn y gweithlu rhwng 2007 a 2011. Nyrsys, gan gynnwys nyrsys cymunedol, oedd y grŵp staff mwyaf yn y gweithlu hwnnw (33% o’r cyfanswm);
- Cynnydd yn nifer yr achosion y deliwyd â nhw ac yn nifer yr ymgynghoriadau a gynhaliwyd.
- Gostyngiad yn nifer y bobl a oedd yn aros i gael eu gweld.
- Gostyngiad yn yr amser yr oedd pobl yn aros i gael eu gweld.
- Gostyngiad yn yr amseroedd aros hir am driniaeth.
Wrth wneud sylw ar y canfyddiadau, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lesley Griffiths AC: “Mae’n ddyletswydd arnom ni i roi dechrau da mewn bywyd i’n plant a’n pobl ifanc, ac mae blaenoriaethu eu hiechyd meddwl yn hanfodol.”
“Mae 10% y cant o bobl ifanc dan 16 oed yn dioddef problemau iechyd meddwl, sy’n amrywio o broblemau tymor byr neu fân broblemau i salwch meddwl mwy difrifol.”
“Mae’n allweddol adnabod problemau iechyd meddwl yn gynnar a darparu triniaeth briodol er mwyn rhoi’r cyfle gorau mewn bywyd i blant a phobl ifanc.”
“Ers 2008, rydym wedi buddsoddi £9.6 miliwn yn ychwanegol mewn gwasanaethau meddwl arbenigol i blant a phobl ifanc, ac rydym wedi dyrannu £8 miliwn i ddatblygu gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion.”
“Mae buddsoddi mewn atal anhwylderau a gwella iechyd yn rhan fawr o’n strategaeth ni i gefnogi iechyd a lles plant a phobl ifanc. Ym mis Mai eleni, llwyddon ni i gyflawni’r addewid a wnaed gennym yn ‘Cymru’n Un’ i ddarparu nyrs ysgol ar gyfer pob ysgol uwchradd. Mae nyrsys ysgol yn ganolog i’r gwasanaethau sy’n hybu a chefnogi iechyd cymdeithasol, corfforol, emosiynol a meddyliol ein plant a’n pobl ifanc.”
“Mae canlyniadau adroddiad CAMHS yn dangos yn glir bod ein polisïau a’n buddsoddiad parhaus yn ein plant a phobl ifanc yn gwella’r sefyllfa ar gyfer y rheini sydd angen help gyda phroblemau iechyd meddwl. Byddwn yn parhau i wneud popeth posibl i sicrhau bod y gwasanaethau cywir yn eu lle i’r bobl ifanc sydd eu hangen.”
Er geiriau positif y Gweinidog, mae’r data gan Brifysgol Durham University wedi eu hadrodd gyda nodyn o rybudd. Mae datganiad y wasg Llywodraeth Cymru yn datgan: “Mae data ciplun blynyddol wedi ei gasglu ers tair blynedd (2007-08, 2008-09 a 2010-11) ar ddarpariaeth GIG o Wasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol i Blant a Phobl Ifanc (CAMHS Arbenigol) yng Nghymru. Tra dylid darllen canfyddiadau’r adroddiad hwn yn ofalus, mae’r ymarferion mapio i’w gweld yn cynnig darlun o ymestyn a newid mewn CAMHS Arbenigol.”
Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Swyddog Gwybodaeth i Bobl Ifanc Hafal, John Gilheaney: “Mae hwn yn newyddion da sydd i’w groesawu.
“Fodd bynnag, rwyf hefyd yn credu ei fod yn deg dweud fod yna gryn dipyn eto i’w wneud er mwyn gwella darpariaeth gwasanaethau CAMHS ar draws Cymru. Mewn cynhadledd ar hunanladdiad a hunan-niwed yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf yn unig, roedd Ymgynghorydd CAMHS Llywodraeth Cymru, David Williams, wedi siarad am ddiffyg niferoedd gweithwyr CAMHS yng Nghymru.”
Bydd canlyniadau Ymarfer Mapio CAMHS Cymru yn cael eu cyhoeddi ar: http://www.camhsmappingcymru.org.uk/
Er mwyn darllen y stori newyddion am Dr David Williams – “25% of ferched a 40% o fechgyn sydd yn blant o oedran ysgol wedi ystyried hunanladdiad yn y flwyddyn ddiwethaf” – ewch os gwelwch yn dda i: http://www.hafal.org/hafal/yp_news.php