Roedd defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr o brosiect Hafal RCT wedi trafod thema’r ymgyrch – sef ymrymuso – yn ystod digwyddiad heddiw.
Wrth siarad am ymrymuso, esboniodd Nigel, sef defnyddiwr gwasanaeth o Rondda Cynon Taf sydd â sgitsoffrenia, ei fod ond wedi medru cael mynediad at ddiwrnod ymrymuso a gwasanaethau cymorth yn y chwe mis diwethaf, a hynny er gwaethaf derbyn ei ddiagnosis yng nghanol yr 1980au.
Dywedodd ef: “Rwyf yn 51 mlwydd oed ac wedi byw gyda diagnosis o sgitsoffrenia ers y 25 mlynedd ddiwethaf. Rwyf wedi bod yn mynychu gwasanaeth lleol Hafal ers y chwe mis diwethaf – fy mhrofiad cyntaf o’r fath wasanaethau – ac rwyf i a’m teulu wedi elwa fwyaf drwy’r cynnydd gwirioneddol yn fy ymdeimlad o hunanwerth. Nid oeddwn yn teimlo fy mod yn mynd unman ond rwyf erbyn hyn yn teimlo fy mod yn cael fy nghynorthwyo’n dda gan staff a defnyddwyr eraill o fewn y prosiect.
“Rwyf yn cymryd rhan yn holl weithgareddau’r prosiect ac wedi cwblhau cwrs TG sylfaenol yn ddiweddar. Rwyf wir yn mwynhau cwrs gwaith coed hefyd gan fod hyn wedi rhoi’r cyfle i mi i ail-ennill hen sgiliau.”
Mae Hafal wedi ei ariannu gan raglen Mae Iechyd Meddwl yn Cyfrif y Loteri Fawr i gynorthwyo pobl ag afiechyd meddwl difrifol yn ôl i’r gwaith drwy ein prosiect Camau Byr. Rydym yn gwneud hyn drwy eu cefnogi drwy hyfforddiant ac addysg, eu hymrymuso i ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnynt. Mae Hafal hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr ac yn eu cynorthwyo i ddeall eu rôl drwy sicrhau fod iechyd meddwl eu staff yn cael ei reoli’n dda. Rydym yn gwneud hyn drwy:-
• Adnabod anghenion hyfforddi a darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl;
• Rhoi cyngor ar arfer gorau;
• Gweithio gyda gweithwyr sydd ag afiechyd meddwl difrifol, eu cynorthwyo i reoli eu hafiechyd a gwneud eu gwaith yn dda.
Am fwy o wybodaeth am brosiect cyflogaeth Camau Byr Hafal, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.hafal.org/hafal/cymraeg/taking-the-wheel.php
Er mwyn edrych ar fwy o luniau o ddigwyddiad heddiw, ewch os gwelwch yn dda i: http://tiny.cc/dsybs