Mae defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr o brosiect Hafal yng Nghaerffili wedi trafod thema’r ymgyrch – sef ymrymuso – yn ystod digwyddiad heddiw.
Roedd Bryn Davies, 24, wedi dechrau mynychu Hafal a chymryd rhan mewn gweithgareddau chwe mis yn ôl. Dywedodd ef: “Mae’r gweithgareddau sydd yn cael eu cynnig gan Hafal wir wedi fy nghynorthwyo gyda’m gorbryder ac iselder. Rwyf yn chwarae gitâr ac wir wedi mwynhau chwarae rhan yng ngrŵp cerddorol Hafal, rydym wedi perfformio i’r grŵp celfyddydau lleol ac mae wedi fy helpu i adeiladu fy hyder. Roeddwn yn arfer bod mewn band ond mi gollais ddiddordeb ar ôl dod yn sâl; fodd bynnag, mae’r elfen gymdeithasol sydd gan y grŵp cerddorol wedi llwyddo i adeiladu fy ymdeimlad o hunanwerth. Rwyf erbyn hyn nôl yn gwneud yr hyn yr wyf wrth fy modd yn ei wneud.
“Rwyf wedi cael llawer iawn o gymorth gan fy ngweithiwr cymorth a staff o Hafal. Rwyf wedi dechrau symud ymlaen yn fy mywyd. Rwyf wedi siarad am fy salwch gyda myfyrwyr yn y brifysgol leol; yn y dyfodol, hoffwn gynorthwyo eraill, yn enwedig pobl ifanc, i gymryd rhan yn y gweithgareddau sydd gan Hafal i’w cynnig.”
Mae Canolfan Wybodaeth i Bobl Ifanc gan Hafal, a ariennir gan y Loteri Fawr, ac sydd yn diwallu anghenion gwybodaeth pobl ifanc sydd rhwng 11 a 25 mlwydd oed. Mae gwefan y Ganolfan wedi yn seiliedig ar brofiadau Aelodau Hafal – pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o afiechyd meddwl difrifol.
Mae’r wefan hon yn rhoi cyngor i chi ar sut i symud ymlaen ar y ffordd tuag adferiad pan fo afiechyd meddwl gennych. Er mwyn edrych ar wefan i Bobl Ifanc Hafal, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.hafal.org/hafal/cymraeg/taking-the-wheel.php
Roedd y fan wersylla hefyd wedi ymweld â Chanolfan Jasmine yng Nghaerdydd ddoe ar gyfer digwyddiad a gynhaliwyd gan y Cyngor. Roedd stondinau yn y digwyddiad yn cynnwys rhai gan y gwasanaeth tân a’r heddlu.