Roedd yr ymgyrch “Cymryd y Llyw” wedi cyrraedd Merthyr heddiw.

Roedd defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr o brosiect Hafal Merthyr wedi trafod thema’r ymgyrch – sef ymrymuso – yn ystod digwyddiad heddiw.

Wrth siarad am ymrymuso o safbwynt y dewis o driniaethau sydd ar gael i bobl ag afiechyd meddwl difrifol, dywedodd Sharon Harris, sef Hyfforddwr Claf Arbenigol a Defnyddiwr Gwasanaeth Hafal sydd ag Anhwylder Obsesiynol Cymhellol, gorbryder ac iselder cymdeithasol: “Mae dewis o ran triniaethau yn bwysig iawn ond rhaid cael dewis sydd yn ddewis go iawn.

“Cefais ddewis o dri math gwahanol o driniaethau nad oedd yn rhai meddygol. Rwyf wedi defnyddio CBT, ‘therapi siarad’ a therapi yn seiliedig ar gyfrifiadur. Fodd bynnag, y broblem oedd eu bod oll wedi eu cyfyngu o ran amser a heb barhau yn ddigon hir i gael effaith go iawn wrth fy nghynorthwyo i wella. Yr hyn sydd angen yw cefnogaeth gyson, barhaus sydd mor hir ag sydd angen arnoch er mwyn sicrhau adferiad go iawn.”

•Mae Hafal wedi cynhyrchu “Triniaethau ar gyfer Afiechyd Iechyd Meddwl – Canllaw Ymarferol”, sef cyhoeddiad sydd yn edrych ar driniaethau uniongyrchol ar gyfer afiechyd meddwl difrifol: therapïau seicolegol a meddyginiaeth. Er mwyn lawrlwytho copi, ewch os gwelwch yn dda i: Triniaethau ar gyfer Afiechyd Meddwl Difrifol Arweiniad Ymarferol

•Mae Hyfforddwyr Cleifion Arbenigol Hafal yn bobl sydd â phrofiad o afiechyd meddwl difrifol ac wedi dod yn hyfforddwyr iechyd meddwl er mwyn rhannu eu profiadau a rhoi cipolwg o adferiad ac ystod o faterion eraill fel y gall eraill ddysgu o’r hyn y maent wedi profi. Mae Hafal yn meddu ar 15 o Hyfforddwyr Cleifion Arbenigol ar hyn o bryd sydd yn darparu amryw o gyrsiau hyfforddi yn fewnol ac yn allanol; mae cleientiaid wedi cynnwys Llywodraeth Cymru a’r DVLA.

Er mwyn edrych ar luniau o ddigwyddiad heddiw, ewch os gwelwch yn dda i: http://tiny.cc/dsybs