Adroddiad yr ymgyrch yn amlinellu’r hyn y mae defnyddwyr gwasanaeth yn ei ddymuno gan wasanaethau iechyd meddwl

Bydd adroddiad o’r ymgyrch ‘Cymryd y Llyw’ yn cael ei lansio yn yr Oriel, y Senedd, gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Lesley Griffiths AC ar ddydd Mawrth, Hydref 11eg.

Mae’r adroddiad, ‘Beth Mae Defnyddwyr Yn Ei Ddymuno!’ yn darparu adborth o’r ymgyrch hynod lwyddiannus a arweiniwyd gan gleientiaid ac sydd wedi ei chefnogi gan Hafal mewn partneriaeth â MDF the Bipolar Organisation Cymru a’r Sefydliad Iechyd Meddwl. Mae’r ymgyrch wedi ymrymuso defnyddwyr gwasanaeth i gymryd rheolaeth o’u bywydau a’r gwasanaethau y maent yn eu derbyn.

Dywedodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Lesley Griffiths: “Mae ‘Cymryd y Llyw’ yn drosiad ardderchog ar gyfer y dull adferiad o safbwynt iechyd meddwl – rhywbeth yr wyf yn ei gefnogi’n gryf – lle y mae pobl, drwy weithio gyda gweithwyr proffesiynol, yn medru cymryd rheolaeth a gyrru gwelliannau i elwa eu hiechyd meddwl a chwarae rhan uniongyrchol yn eu gofal a’u triniaeth. Mae hyn yn unol â’n hymrwymiad i ddefnyddio pwerau deddfwriaethol y Mesur Iechyd Meddwl. O flwyddyn nesaf ymlaen, bydd hyn yn golygu bod gwasanaethau cymorth iechyd meddwl ar gael o fewn gofal cynradd yn holl ardaloedd yr awdurdodau lleol, a bydd defnyddwyr gwasanaeth yn elwa o gynlluniau gofal a thriniaeth integredig ac unigol.”

Roedd “Cymryd y Llyw”, a gynhaliwyd o fis Mai tan fis Medi, wedi ymgysylltu â phobl sydd yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd neu sydd wedi profi afiechydon meddwl difrifol megis sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol a diagnosis arall sydd fel arfer angen lefelau uchel o ofal er mwyn rheoli eu hadferiad eu hunain o afiechyd meddwl difrifol.

Y neges glir sydd yn deillio o ‘Beth Mae Defnyddwyr Yn Ei Ddymuno!’ yw bod defnyddwyr gwasanaeth angen cymorth ar draws ystod eang o feysydd Cynllunio Gofal. Yn wir, mae defnyddwyr gwasanaeth yn ystyried y Cynlluniau Gofal a Thriniaeth fel modd o sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu llywio gan anghenion cleifion.

Esboniodd yr Hyfforddwr Claf Arbenigol, Dave Smith: “Rwyf wedi siarad gyda nifer o’m cyd-ddefnyddwyr gwasanaeth yn ystod yr ymgyrch a’r consensws yw nad ydym yn disgwyl adnoddau newydd helaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. Rydym yn gwybod nad yw hyn yn mynd i ddigwydd beth bynnag. Ond rydym am wasanaethau sydd â chleient yn ganolbwynt iddynt. Ac rydym yn unfarn y gellir gwneud hyn mewn modd diriaethol drwy ddefnyddio Rhan 2 o’r Mesur sydd yn ymwneud gyda chynllunio gofal.

“Mae defnyddwyr gwasanaeth am Gynlluniau Gofal a Thriniaeth unigol ond nid yw’n ddigon da i wneud y Cynlluniau yma i weithio gyda’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu. Dylai gwasanaethau fod yn seiliedig ar yr hyn sydd yn y Cynlluniau, nid y ffordd arall o gwmpas. Ac mi ddylai fod yna ddigon o hyblygrwydd yn y ddarpariaeth o wasanaethau fel y gallant ddiwallu anghenion pob unigolyn.”

Er mwyn darllen yr adroddiad
“Beth y Mae Defnyddwyr Yn Ei Ddymuno!”, ewch os gwelwch yn dda i:
http://www.hafal.org/hafal/pdf/Cymryd%20y%20Llyw%20-%20Beth%20Mae%20Defnyddwyr%20yn%20Ei%20Ddymuno.pdf