Mae’r canlynol yn eitem newyddion o Ganolfan Wybodaeth i Bobl Ifanc Hafal a ariennir gan y Loteri Fawr. Er mwyn cael mynediad at y Ganolfan, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.hafal.org/hafal/cymraeg/yp_index.php
Mae adroddiad gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion (RCP) wedi rhybuddio bod y genhedlaeth bresennol o fyfyrwyr mewn mwy o beryg o brofi gorbryder ac iselder na chenedlaethau cynt.
Dywedodd un o awduron yr adroddiad, Dr John Callender, wrth y BBC: “Mae llawer yn gorfod gweithio am oriau hir mewn swyddi, a hynny’n ogystal ag ymgymryd ag astudiaethau academaidd llawn amser. Nid yw llawer hefyd yn derbyn cymaint o gymorth gan eu teuluoedd fel y digwyddodd mewn blynyddoedd cynt.
“Y rhesymau am hyn yw’r cyfraddau uwch o briodasau sydd yn chwalu a myfyrwyr yn deillio o gefndiroedd cymdeithasol tlotach.”
Ychwanegodd fod llawer o bwysau cymdeithasol dwys hefyd ar bobl ifanc, byw oddi cartref a cheisio gwireddu’r disgwyliadau y dylai’r blynyddoedd yma fod yn gyfnod hapus a chymdeithasol.
Mae’r RCP yn dymuno bod staff academaidd yn derbyn mwy o hyfforddiant a mwy o gymelliadau ar gyfer Meddygon Teulu sydd â diddordeb darparu gwasanaeth iechyd ymroddedig i fyfyrwyr.
Er mwyn darllen mwy am y stori hon, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.bbc.co.uk/news/health-15112980