Adolygiad llyfrau: “Jonny: my autobiography” a “Henry’s Demons”

Mae’r canlynol yn adolygiad o Ganolfan Wybodaeth i Bobl Ifanc Hafal a ariennir gan y Loteri Fawr. Er mwyn cael mynediad at y Ganolfan, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.hafal.org/hafal/cymraeg/yp_news.php

 
“Pan wyf yn meddwl yn ôl i’r bachgen ifanc hwnnw yn chwarae rygbi plant yn Farnham, y chwydu yn y cloddiau yn sgil y nerfau, crio cyn gemau oherwydd nid oedd yn medru amgyffred methu â gwneud rhywbeth yn iawn, rwy’n meddwl faint sydd wedi newid.”

Nid dyma’r geiriau y byddech yn disgwyl i gael eu hynganu gan chwaraewr rygbi byd enwog ond maent yn deillio o hunangofiant arwr Lloegr a’r Llewod Prydeinig Jonny Wilkinson.

Yn “Jonny; the autobiography”, mae Wilkinson yn ysgrifennu yn agored iawn am ei brofiadau o iselder, pyliau o banig, hunan-niweidio a’i ddymuniad obsesiynol (o oedran cynnar iawn) i fod y chwaraewr rygbi gorau yn y byd.

Yn ystod cyfnod pan oedd yn brwydro i wella o anaf, mae Wilkinson yn ysgrifennu: “Mae fy meddwl yn gwbl ynghlwm ag unrhyw beth y gall ei ganfod sydd yn negatif a difäol; ac mae’n achosi mi i gael pwl o banig a’m calon i guro’n gynt. Nid yw fy meddiangarwch yn ymwneud â rygbi mwyach ac mae wedi dechrau gyrru meddyliau a delweddau tywyll, annymunol drwy fy mhen.”

Mae Wilkinson, sydd yn cyfaddef fod ei orbryder mor ddifrifol fel ei fod wedi meddwl “hel ei bac” oriau yn unig cyn gêm fawr yn erbyn Cymru, wedi ei ganmol am ei barodrwydd i fod mor agored am ei iselder. Mae’n werth darllen ei lyfr gan ei fod yn amlygu’r pwysau y mae plant ac oedolion yn eu hwynebu mewn cymdeithas sydd yn cael ei gyrru gan statws a sut y mae iselder, hunan-niweidio a phyliau o banig a gorbryder aciwt yn medru brifo’r rhai hynny y byddech yn meddwl sydd lleiaf tebyg o gael eu heffeithio gan y fath faterion.

Yn “Henry’s Demons”, mae’r newyddiadurwr Patrick Coburn yn ysgrifennu am brofiad ei fab Henry o sgitsoffrenia a’i daith tuag at ddeall y newidiadau yn ei fab.

Mae’r llyfr yn hynod ddiddorol am sawl rheswm. Er enghraifft, mae’n dangos sut y mae afiechyd un person yn medru effeithio ar gymaint o bobl (pan aeth Henry ar goll, mae’r Heddlu yn cwyno am y gost o chwilio am Henry) a sut y mae’r bobl fwyaf hyddysg yn gwybod nemor ddim am afiechyd meddwl, ac os ydynt yn gwybod, maent yn amharod i siarad amdano.

 
Ysgrifenna Patrick: “Roedd yn peri cryn syndod i mi fod pobl yr oeddwn yn meddwl fy mod yn eu hadnabod yn dda yn meddu ar aelodau teulu agos a oedd yn dioddef o sgitsoffrenia neu anhwylder deubegynol. Roeddwn yn ceisio meddwl paham nad oeddynt wedi siarad gyda mi am hyn. Hyd yn oed nawr, rwy’n canfod y ffaith eu bod mor dawel yn rhyfedd gan fod y rhan fwyaf ohonynt yn soffistigedig ac yn hunan-hyderus ac yn annhebygol o fod ofn y ‘stigma’ sydd yn gysylltiedig ag iechyd meddwl .”

Yn ogystal â darllen am farn Patrick a’i daith yntau tuag ddeall yr afiechyd, un o agweddau gorau’r llyfr yw bod Henry hefyd yn ysgrifennu yn glir am ei brofiadau ei hun o sgitsoffrenia a’r hyn y mae’n golygu iddo yntau.

I unrhyw un sydd am ddysgu mwy am sgitsoffrenia a’r effeithiau y mae’n medru eu cael ar deulu, mae “Henry’s Demons” yn fan dechrau ardderchog.

“Jonny: My autobiography”, wedi ei gyhoeddi gan Headline.
“Henry’s Demons: Living with Schizophrenia, a Father and Son’s Story”, Simon & Schuster Ltd.