Comisiynydd Plant i Gymru: “Mae cryn dipyn o

Mae’r canlynol yn eitem newyddion o Ganolfan Wybodaeth i Bobl Ifanc Hafal a ariennir gan y Loteri Fawr. Er mwyn cael mynediad at y Ganolfan, ewch os gwelwch yn dda i:
http://www.hafal.org/hafal/cymraeg/yp_index.php

Yn ei bedwerydd adroddiad blynyddol, mae’r Comisiynydd Plant i Gymru Keith Towler yn dweud er bod yna gynnydd wedi ei wneud o ran darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, “mae cryn dipyn o ffordd i fynd eto hyd nes y bydd holl bobl ifanc Cymru yn gallu disgwyl yn hyderus eu bod yn medru derbyn triniaeth briodol yn brydlon ac mor agos i’w cartrefi ag sy’n bosib.”

Yn ei adroddiad, mae’r Comisiynydd yn dweud:

• “O safbwynt y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru), mae cwestiwn hefyd ynghylch gallu plant a phobl ifanc i gael gafael ar wasanaethau trwy ddulliau eraill heblaw eu Meddyg Teulu (trwy wasanaethau cwnsela’r ysgol efallai), ac mae angen mynd i’r afael â hyn wrth gyflwyno’r ddeddfwriaeth fesul tipyn.”

• Mae’n “croesawu’r flaenoriaeth gynyddol sydd yn cael ei roi i CAMHS a’r ffaith fod argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru ac adroddiad Arolygiaeth Iechyd Cymru Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc ag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl yn rhan o gynllun gweithredu ‘Chwalu’r Rhwystrau’.”

• “Gall y Mesur hwn gyfrannu cymaint at weithredu’r strategaeth CAMHS yng Nghymru. Er hynny, mae angen sicrhau dull cydgysylltiedig rhwng y model newydd o ddarparu gwasanaethau sy’n ymwneud â’r Mesur, Grŵp Sicrhau Cyflenwi Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am gyflwyno cynllun gweithredu CAMHS (Chwalu’r Rhwystrau) a Grŵp Cyfeirio Arbenigol ar gyfer CAMHS. Rhaid i hyn ddigwydd cyn y gallwn fwrw ymlaen a gweithredu egwyddorion Busnes Pawb.”

• Roedd yn “croesawu’r swm ychwanegol o £1.7miliwn a neilltuwyd er mwyn helpu i ddarparu gwasanaethau CAMHS i blant a phobl ifanc ag anableddau dysgu.”

• Roedd hefyd wedi “croesawu agor uned cleifion mewnol CAMHS yng Ngogledd Cymru a’r uned newydd yn Ne Cymru a fydd wedi ei chwblhau cyn hir.” Fodd bynnag, ychwanegodd: “Rwyf yn gwybod, drwy waith fy Swyddogion Ymchwilio a Chynghori, ein bod wedi ymdrin ag achosion o blant yn dal i gael eu hanfon i wardiau oedolion a bod uned De Cymru wedi gorfod gwrthod cleifion newydd ar adegau.”

Roedd y Comisiynydd wedi crynhoi ei farn ar wasanaethau iechyd meddwl drwy ysgrifennu: “Er bod llawer o’r hyn a welais eleni wedi fy mhlesio, rwy’n dal i gadw llygad ar y datblygiadau a’r cynnydd gyda diddordeb mawr.

“Byddaf yn disgwyl i’r Gweinidog fynnu bod grŵp sicrhau cyflenwi CAMHS yn rhoi cyngor ac arweiniad clir iddi ynglŷn ag effeithiolrwydd cynlluniau gweithredu CAMHS y byrddau iechyd lleol.”

Er mwyn lawrlwytho yr adroddiad, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.childcomwales.org.uk/uploads/publications/273.pdf

Er mwyn darllen datgan i’r wasg ar yr adroddiad, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.childcom.org.uk/uploads/publications/275.pdf