Mae’r canlynol yn stori newyddion o Ganolfan Wybodaeth i Bobl Ifanc Hafal a ariennir gan y Loteri Fawr. Er mwyn cael mynediad at y Ganolfan, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.hafal.org/hafal/cymraeg/yp_index.php
Mae ChildLine, y gwasanaeth cwnsela 24 awr, wedi datgelu fod galwadau gan blant a phobl ifanc am faterion iechyd meddwl wedi cynyddu’n ddramatig dros gyfnod y Nadolig.
Mae ffigyrau yn dangos fod y:
• “Galwadau sydd yn ymwneud ag iselder a materion iechyd meddwl wedi cynyddu 103% yn ystod Nadolig 2011 (o gymharu â Nadolig 2010).”
• “Galwadau sydd yn ymwneud â hunan-niweidio wedi cynyddu 62% a hunanladdiad wedi cynyddu 57%.”
Dywedodd Llywydd ChildLine Esther Rantzen: “Mae’r ffigyrau yma yn dangos yn eglur faint o blant sydd mewn trallod sy’n dibynnu ar ChildLine, yn enwedig ar adegau megis y Nadolig sydd yn aml yn gyfnod hynod anodd i bobl ifanc sydd yn agored i niwed.
“Mae ChildLine yn llinell gymorth hanfodol ar gyfer miloedd o bobl ifanc sydd wir angen cymorth a chyngor ar feddyliau sydd yn ymwneud â hunanladdiad, hunan-niweidio, camdriniaeth rywiol ac afiechyd meddwl.”
Er mwyn ymweld â gwefan ChildLine, sydd â bwrdd negeseuon iechyd meddwl, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.childline.org.uk/Pages/Home.aspx