Ymgynghoriad ar God Ymarfer y Mesur yn dod i ben!

Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Cod Ymarfer drafft ar gyfer rhannau 2 a 3 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 yn dod i ben ddydd Llun nesaf (Ionawr 16eg 2012).

Os ydych am gyflwyno eich sylwadau ar yr hyn y dylid ei gynnwys yn y Cod, mae dal amser i wneud hynny!

Er mwyn darllen y Cod Ymarfer drafft a lawrlwytho ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad, ewch os gwelwch yn dda i: http://wales.gov.uk/consultations/healthsocialcare/mental/?lang=en&status=open

Roedd y defnyddiwr gwasanaeth Lee McCabe wedi lansio ymgyrch yn ddiweddar i gryfhau’r Cod o ran cynllunio gofal a thriniaeth. Er mwyn canfod sut y gallwch chi gefnogi’r ymgyrch, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.hafal.org/hafal/leesview.php