Comisiynydd Plant i Gymru yn amlygu diffyg eiriolaeth mewn adroddiad newydd

Mae’r canlynol yn stori newyddion o Ganolfan Wybodaeth i Bobl Ifanc Hafal a ariennir gan y Loteri Fawr. Er mwyn cael mynediad at y Ganolfan, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.hafal.org/hafal/cymraeg/yp_news.php

Nid yw rhai o blant a phobl ifanc Cymru sydd fwyaf agored i niwed yn ymwybodol o’u hawliau statudol i gael llais proffesiynol ‘annibynnol’ oherwydd nad yw’r system yn darparu “dulliau clir o wirio a chydbwyso” yn ôl y Comisiynydd Plant i Gymru, Keith Towler.

Mewn adroddiad dan y teitl Lleisiau Coll, a gyhoeddwyd heddiw, amlinellodd y Comisiynydd ganfyddiadau ei adolygiad statudol cyntaf, a fu’n edrych ar eiriolaeth broffesiynol annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal, rhai sy’n gadael gofal a phlant mewn angen.

Ymhlith canfyddiadau allweddol yr adolygiad mae’r canlynol:

– bod diffyg eglurder a chysondeb o ran y dull o gomisiynu gwasanaethau ar draws Cymru;
– bod diffyg arweinyddiaeth strategol gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod plant a phobl ifanc cymwys yn cael mynediad cyfartal; ac
– nad yw’r gwasanaeth yn cael ei arolygu na’i reoleiddio yn flynyddol nac yn systematig.

Ar hyn o bryd, o dan Ddeddf Plant 1989 a Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002, mae rhwymedigaeth statudol ar bob awdurdod lleol i ddarparu ‘llais’ proffesiynol annibynnol, a elwir hefyd yn eiriolwr, ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc sy’n derbyn gofal, pawb sy’n gadael gofal, a phob plentyn mewn angen. Dylai plant a phobl ifanc gael cynnig eiriolwr pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud amdanynt neu os ydynt am wneud cwyn.

Yn ystod y saith mis diwethaf, mae’r Comisiynydd a’i dîm wedi derbyn tystiolaeth gan fwy na 500 o blant a phobl ifanc ledled Cymru, gan Lywodraeth Cymru, gan bob un o’r 22 awdurdod lleol, a chan y prif wasanaethau eiriolaeth i ganfod i ba raddau mae’r trefniadau presennol yn diogelu a hybu hawliau a lles plant a phobl ifanc.

Dywedodd Mr Towler: “Mae’n peri tristwch i mi orfod dweud nad yw rhai o’r plant a’r bobl ifanc yng Nghymru sydd fwyaf agored i niwed yn gwybod bod ganddyn nhw hawl i gael eiriolwr proffesiynol annibynnol i gynrychioli eu barn. Nid diben fy adolygiad yw rhoi bai ar unrhyw un penodol, ond yn hytrach roi egni newydd i bartneriaid cenedlaethol a lleol, fel bod Cymru yn dychwelyd i’r llwybr cywir, ac yn sicrhau na wrthodir mynediad at eiriolwr proffesiynol i unrhyw blentyn.

“Ymhlith y 29 argymhelliad rwy’n eu gwneud mae awgrymiadau ynghylch newidiadau sylfaenol i strwythurau cenedlaethol, ond mae’r argymhellion ynghylch sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu gwneud yn ymwybodol o’u hawl i gael llais ac yn deall hynny yr un mor bwysig. Ddylwn i ddim bod yn clywed am achosion lle gwrthodwyd mynediad at eiriolwr i blant, nac am ragdybiaethau na fydden nhw’n elwa o gael eiriolwr proffesiynol gan eu bod nhw’n rhy ifanc.

“Yn ystod yr adolygiad hwn rydym wedi clywed am arfer rhagorol, ond mae rhaid sicrhau nawr bod yr enghreifftiau lleol hynny o arfer da yn dod yn norm ledled Cymru.”

Mae gan Weinidogion Cymru a’r awdurdodau lleol a gynhwyswyd yn yr adolygiad dri mis i ymateb yn ysgrifenedig i’r 29 argymhelliad erbyn 22 Mehefin 2012.

 Er mwyn lawrlwytho copi o “Lleisiau Coll”, ewch os gwelwch yn dda i: https://www.childcomwales.org.uk/en/review-of-advocacy/