Dymuno dod yn OP?

Mae’r canlynol yn stori newyddion Ganolfan Wybodaeth i Bobl Ifanc Hafal a ariennir gan y Loteri Fawr. Er mwyn cael mynediad at y Ganolfan, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.hafal.org/hafal/cymraeg/yp_news.php

Roedd Swyddog Gwybodaeth i Bobl Ifanc Hafal John Gilheaney wedi mynychu cyfarfod yn ddiweddar o Oedolion Priodol (OP) Hafal yng Nghaerdydd.

Mae OP yn rhywun sydd yn amddiffyn hawliau a lles pobl ifanc a phobl sydd yn agored i niwed ac sydd wedi cafod eu hunain yn cael eu dal yn y ddalfa gan yr heddlu. Crëwyd y rôl yn Neddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) er mwyn atal camweddau.

Roedd John wedi siarad â dau berson ifanc sydd wedi dod yn OP: Hannah Orriss a Jennie Harris. Er mwyn darllen sut y maent wedi helpu pobl ag afiechyd meddwl difrifol ac efallai ystyried o bosib a hoffech ddod yn AA, yna larlwythwch copi o’n cyfnodolyn diweddaraf os gwelwch yn dda. Dyma’r ddolen: http://www.mentalhealthwales.net/mhw/documents/imc_gaeaf11.pdf