Mae’r canlynol yn stori newyddion o Ganolfan Wybodaeth i Bobl Ifanc Hafal a ariennir gan y Loteri Fawr. Er mwyn cael mynediad at y Ganolfan, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.hafal.org/hafal/cymraeg/yp_news.php
Roedd Hannah Thomas, Sgriptwraig Weithredol a Chynhyrchydd y ddrama Gymreig Pobol y Cwm, sydd wedi bod ar deledu ers cryn amser, wedi cwrdd â defnyddwyr gwasanaeth a staff Hafal yn ddiweddar.
Trefnwyd ymweliad Hannah gan y Ganolfan Wybodaeth i Bobl Ifanc Hafal mewn cydweithrediad â’r Comisiynydd Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Pwrpas yr ymweliad oedd caniatáu i Hannah i ganfod mwy am y gwaith y mae Hafal yn ei wneud fel bod modd i hyn i lywio ysgrifenwyr a newyddiadurwyr BBC Cymru ynghylch y ffordd orau y maent yn ymdrin â materion iechyd meddwl mewn dramâu ac yn y newyddion.
Wrth wneud sylw ar ei hymweliad, dywedodd Hannah: “Roedd wir yn ysbrydoledig i gwrdd ag aelodau o dîm Hafal sydd yn gweithio gyda’r fath ymrwymiad i helpu pobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol.
“Roeddwn wir wedi mwynhau mynd i’r Pencadlys a Phrosiect Hafal yn Abertawe; roeddwn wir wedi fy synnu gan y mathau o weithgareddau sydd yn cael eu cynnig i bobl yno, o wersi gitâr i baentio crysau-T. Rwyf yn gobeithio y bydd yr holl dîm yn parhau gyda’u llwyddiant yn y dyfodol.”