Deunydd i bobl ifanc ar y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) yn dod cyn hir!

Mae’r canlynol yn stori newyddion o Ganolfan Wybodaeth i Bobl Ifanc Hafal a ariennir gan y Loteri Fawr. Er mwyn cael mynediad at y Ganolfan, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.hafal.org/hafal/cymraeg/yp_news.php

Bydd cofnodion o bobl ifanc yn siarad am eu profiadau o wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru – a’r hyn y maent yn ei ddisgwyl o’r Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) hanesyddol – ar gael ar-lein cyn hir.

Daw’r Mesur i rym ym mis Mehefin. Bydd y gyfraith newydd hon yn cynnig llawer o fuddion i ddefnyddwyr gwasanaeth iechyd meddwl ifanc yng Nghymru – y budd mwyaf yw y bydd pob un defnyddiwr gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd yn meddu, am y tro cyntaf, ar yr hawl gyfreithiol i dderbyn cynllun gofal a thriniaeth holistaidd. Mae hyn yn rhywbeth y mae defnyddwyr gwasanaeth yng Nghymru wedi bod yn ymgyrchu o’i blaid ers tro byd.

Yn gynharach yr wythnos hon, roedd Swyddog Gwybodaeth i Bobl Ifanc Hafal, John Gilheaney, wedi siarad ag Ian McGonagle, Prif Ddarlithydd ym Mhrifysgol Lincoln, am y Mesur a’r deunydd hyfforddi/gwybodaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gomisiynu i’w cyfansoddi. Nod y deunydd yw cynorthwyo pobl i elwa o’r mwyaf o’r Mesur.
Dyma’r hyn a ddywedwyd:

John: Sut wnaethoch chi baratoi deunydd hyfforddi’r Mesur o safbwynt anghenion defnyddwyr gwasanaeth iechyd meddwl ifanc yng Nghymru?
Ian: Roedd grŵp arbenigwyr o’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Blant ac Oedolion wedi ein helpu i ysgrifennu’r deunydd. Yn ogystal, wrth fynd ati, mi wnaethom gofnodi nifer o bobl ifanc o Gymru yn siarad am eu profiadau o ofal iechyd meddwl yn ogystal â’r hyn y maent yn disgwyl o wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.

Roedd yna ychydig o adborth gwych o’r naratif clywedol yma. Yn ystod y cyfweliadau, roedd pobl ifanc wedi siarad am eu dymuniad i dderbyn cymorth gan bobl sydd yn poeni amdanynt ac yn ymddiried ynddynt. Thema gyffredin oedd pwysigrwydd y berthynas sydd ganddynt gyda’r bobl sydd yn eu helpu – mae pobl ifanc sydd ag afiechyd meddwl am weithio gyda phobl sydd wir am weithio gyda hwy ac nid pobl sydd yn eu hanwybyddu fel pobl ifanc sydd yn mynd drwy gyfnod penodol mewn bywyd.

Yr hyn y mae pobl ifanc yn dymuno yw dynoliaeth gan wasanaethau. Maent am gwrdd â phobl sydd yn rhoi amser iddynt ac yn medru gweld y byd o’u safbwynt hwy, pobl sydd ag empathi, gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol sydd yn ymddiried ynddynt.
Maent yn negeseuon pwerus.

John: Mewn cynhadledd ddiweddar ar seiber-fwlio, dywedodd y Comisiynydd Plant i Gymru, Keith Towler, mai’r cwestiwn gorau y mae erioed wedi ei dderbyn gan newyddiadurwr oedd newyddiadurwr o dramor a ofynnodd: “Pam eich bod chi, yn y DU, yn casáu eich plant a phobl ifanc gymaint?” Gwnaeth i mi feddwl os yw tramorwyr yn credu ein bod yn trin pobl ifanc yn y DU yn wael, Duw a ŵyr beth maent yn meddwl am y ffordd yr ydym yn trin pobl ifanc ag afiechyd meddwl difrifol!

Ian: Yn union. Rwyf wedi cwrdd â nyrsys sydd wedi bod ar deithiau cyfnewid i lefydd yn Ewrop ac maent wedi dweud wrthyf fod y ffordd y mae plant yn cael eu trin yn Ewrop a’r ffordd y maent yn cael eu trin yma yn wahanol iawn. Mae safle pobl ifanc mewn cymdeithas a’r parch y maent yn ei dderbyn yn wahanol iawn i’r hyn sydd yn digwydd yn y DU. Mae nyrsys hefyd wedi dweud wrthyf fod yr hyfforddiant sydd yn cael ei roi i bobl sydd yn gweithio gyda phobl ifanc lawer yn well na’r hyn sydd yn cael ei gynnig yn y DU. Yn Ewrop, mae yna ymarferwyr hynod arbenigol yn gweithio gyda phobl ifanc. Nid ydym yn mynnu ar y lefel o hyfforddiant nac arbenigedd yma.

Roedd defnyddwyr gwasanaeth a staff o Hafal wedi cynorthwyo Ian a’i dîm o 150 o bobl sydd yn gweithio ar ddeunydd hyfforddi’r Mesur. Mae’r naratif clywedol y mae’n cyfeirio ato i’w cyhoeddi ar-lein cyn hir. Cyn gynted ag y mae ar gael, bydd y Ganolfan yn rhoi gwybod i chi.