Y newid o wasanaethau plant i oedolion “fel disgyn oddi ar glogwyn”

Mae’r canlynol yn stori newyddion o Ganolfan Wybodaeth i Bobl Ifanc Hafal a ariennir gan y Loteri Fawr. Er mwyn cael mynediad at y Ganolfan, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.hafal.org/hafal/cymraeg/yp_news.php

Roedd sgil-effeithiau posib y Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) ar blant a phobl ifanc ag afiechyd meddwl difrifol wedi ei drafod mewn cynhadledd a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghaerdydd.

Nod y Mesur yw rhoi llais cryfach a “rheolaeth go iawn” i bobl sydd yn derbyn gofal, a hynny dros y gwasanaethau gofal cymdeithasol y maent yn eu defnyddio; roedd y gynhadledd, a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas ar Fawrth 26ain, wedi clywed gan ystod o siaradwyr gwadd ynghylch sut y mae modd gwneud hyn gan gynnwys y Dirprwy Weinidog i Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol Gwenda Thomas AC a Dr Mike Shooter CBE, Cadeirydd Plant yng Nghymru.

Un o’r problemau mwyaf sydd yn wynebu pobl ifanc sydd ag afiechyd meddwi difrifol yw newid i wasanaethau iechyd meddwl i oedolion. Wrth siarad am y mater hwn yng nghyd-destun gwasanaethau i blant, dywedodd y Dirprwy Weinidog fod pobl ifanc yr oedd hi wedi cwrdd â hwy o’r farn fod y newid “fel disgyn oddi ar glogwyn”.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog: “Bydd y Mesur yn rhoi rhyddid i bobl i gynnal lefel o barhad yn eu gofal pan eu bod yn symud o leoliad i leoliad drwy gyflwyno asesiadau hyblyg. Bydd y Mesur hefyd yn mynd i’r afael â’r loteri cod post ac yn gwella cysondeb gwasanaethau.”

Dywedodd Cadeirydd y Gynhadledd Dr Shooter, a siaradodd yn seminar arloesol Hafal i bobl ifanc ym Mai 2010 , “Tyfu Lan ag Afiechyd Meddwl Difrifol”, wrth y Ganolfan ei fod yntau yn credu fod y Mesur yn newyddion da i bobl ifanc yng Nghymru sydd ag afiechyd meddwl difrifol.

Dywedodd ef: “Nid yw bobl ifanc yn byw eu bywydau mewn cyfadrannau ar wahân. Mae’r hyn sydd yn digwydd gyda’u teuluoedd, yn yr ysgol, gyda ffrindiau ac yn y gymuned oll yn effeithio ar ei gilydd. Mae iechyd corfforol ac iechyd meddyliol yn mynd law yn llaw. Mae symud o blentyndod i laslencyndod ac i mewn i fywyd fel oedolyn yn adeiladu ar yr hyn sydd wedi digwydd cynt. Mewn geiriau eraill, rhaid i wasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau addysg ac iechyd weithio gyda’i gilydd yn yr hirdymor er mwyn helpu pobl ifanc sydd mewn trafferth. Os ydynt yn aros gyda’r naill yn trosglwyddo’r person ifanc i’r llall mewn argyfwng, mae yna beryg y byddant yn gwaethygu’r broblem yn hytrach na’i datrys.

“Rhaid i sicrhau bod modd clywed llais pobl ifanc a gweithredu ar yr hyn y maent yn ei ddweud o safbwynt dylunio gwasanaethau a’u triniaethau unigol. Mae pobl ifanc yn arbenigwyr yn eu bywydau hwy eu hunain. Mae angen eu cynorthwyo i ddatrys eu problemau bywydau ac nid eu trin fel cleifion gan dderbyn diagnosis fod angen pilsen arnynt. Dylent fod yn bartneriaid gweithgar yn y broses ac nid derbyn yn oddefol yr hyn y mae oedolion yn credu sydd ei angen arnynt.

“Mae’r Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) wedi ei selio ar y ddwy egwyddor yma o integreiddio ac ymrymuso, a hynny gyda pharhad drwy oes bywyd. Ar hyn o bryd, mae grwpiau gwahanol yn cynorthwyo i ddrafftio’r Mesur a chynorthwyo i ddyfeisio ffyrdd i wella Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Blant a’r Glasoed. Os ydynt yn gweithio gyda’i gilydd oddi amgylch yr egwyddorion yn y Mesur, mae cyfle go iawn gennym i wella lles pobl ifanc yng Nghymru. Os ydynt yn parhau ar wahân ac yn fyddar i lasi uniongyrchol pobl ifanc, ni fydd dim yn newid.

“Rwyf yn optimistaidd. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i arwydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant ac mae llywodraeth gennym sydd yn credu mewn hawliau. Ni yw’r wlad gyntaf yn DU i gael Comisiynydd i Blant, Gweinidog Plant a Phwyllgor Sefydlog ar faterion plant. Ni yw’r wlad gyntaf yn y DU i gael gwasanaeth cwnsela yn ein holl ysgolion. Ac rwy’n sicr bod modd i ni lwyddo gyda’r Mesur hwn hefyd ar gyfer ein pobl ifanc. Dyma paham yr wyf mor falch o fod wedi byw a gweithio yma am y rhan fwyaf o’m mywyd.”

Bydd yr ymgynghoriad ar y Mesur yn parhau tan y 1af o Fehefin. Bydd y Mesur wedyn yn cael ei gyflwyno ym mis Hydref.
Er mwyn edrych ar y cyflwyniadau a roddwyd yn y gynhadledd, ewch os gwelwch yn dda i:
http://www.childreninwales.org.uk/events/eventsarchive/socialservices/index.html

Er mwyn edrych ar adroddiad o’r gynhadledd “Tyfu Lan ac Afiechyd Meddwl Difrifol”, ewch os gwelwch yn dda i: http://tiny.cc/yzp4bw

Bydd yr ymgynghoriad ar y Mesur yn parhau tan y 1af o Fehefin. Bydd y Mesur wedyn yn cael ei gyflwyno ym mis Hydref. Er mwyn lawrlwytho copi o’r canllaw ar y Mesur i bobl ifanc, ewch os gwelwch yn dda i: http://wales.gov.uk/docs/dhss/consultation/120312childrenen.pdf