Roedd pwysigrwydd addysg a hyfforddiant o ran adferiad o afiechyd meddwl difrifol yn un o’r pwyntiau trafod yn nigwyddiad “Symud I Fyny” Blaenau Gwent heddiw.

Wrth siarad am bwysigrwydd addysg a hyfforddiant o safbwynt ei adferiad o afiechyd meddwl difrifol, dywedodd defnyddiwr gwasanaeth Blaenau Gwent Rob Mckeown: “Mi fues i ar gwrs adeiladu hyder ychydig wedi dod i Hafal a gwnaeth hyn i mi sylweddoli – er fy nhrafferthion, sef gorbryder ac iselder – rwyf dal yn medru gwneud cyfaniad positif i’m cymdeithas. Rwyf wedi mynychu cyflwyniad seminar sgiliau yn ddiweddar ym Mhrif Swyddfa Hafal; rwyf hefyd wedi cwblhau cwrs cwnsela 10 wythnos ac yn gweithio fel gwirfoddolwr i Hafal.

“Hoffwn ddychwelyd i’r gwaith os yn bosib. Os oes swydd gennych, mae yna ffocws i’ch bywyd, strwythur i’ch diwrnod. Os ydy pobl am wella, mae angen y cyfle arnynt i ddychwelyd i’r gwaith. Dylid cael mwy o gefnogaeth i bobl ag anabledd, nid toriadau. Mae’n ddigon anodd cael swydd hyd yn oed os nad oes anabledd gennych. Fy amcan yn y pendraw yw sicrhau swydd – naill ai rhan amser neu lawn amser.”

Nod yr ymgyrch yw elwa o’r mwyaf o’r cyfleoedd ar gyfer adferiad o afiechyd meddwl difrifol sydd yn cael eu darparu gan Strategaeth Iechyd Meddwl drafft Llywodraeth Cymru, “Law yn Llaw at Iechyd Meddwl”, a’r Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) hanesyddol. Mae’r Mesur hwn yn hynod arwyddocaol oherwydd mae’n rhoi hawliau allweddol newydd i ddefnyddwyr gwasanaeth ac mae’n rhoi’r hawl gyfreithiol o’r diwedd i ddefnyddwyr gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd yng Nghymru i dderbyn Cynllun Gofal a Thriniaeth holistaidd sydd yn cynnwys meysydd megis: llety; cyllid ac arian; addysg a hyfforddiant.

Mae’r ymgyrch “Symud I Fyny” yn cael ei chynnal gan ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr ac yn cael ei chefnogi gan yr elusennau iechyd meddwl Hafal, Bipolar UK a’r Mental Health Foundation. Bydd yr ymgyrch yn cynnwys 22 digwyddiad sirol wythnosol ac yn cyrraedd uchafbwynt gyda thaith ddringo i gopa uchaf Cymru, yr Wyddfa, ym mis Medi. Bydd yr ymgyrch hefyd yn cynnwys stondin ryngweithiol yn Sioe Frenhinol Cymru, a hefyd yn y Cynulliad Cenedlaethol ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd.

Am fwy o luniau o’r digwyddiad, ewch os gwelwch yn dda i dudalen Facebook Hafal.

• Am fwy o wybodaeth ar yr ymgyrch, ewch os gwelwch yn dda i: www.hafal.org

• Er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf ar Twitter, ewch os gwelwch yn dda i: http://twitter.com/#!/hafal_