Gweinidog iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Lesley Griffiths AC yn ymweld â Hafal

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Lesley Griffiths AC yn mynychu trafodaeth fywiog a arweiniwyd gan ddefnyddwyr gwasanaeth yng Nghanolfan Adnoddau Hafal yn Wrecsam heddiw.

Yn ystod bore prysur, roedd y Gweinidog wedi clywed defnyddwyr gwasanaeth yn disgrifio sut y maent wedi elwa gan gyrsiau Agored (Open College) sydd yn cael eu cynnal yn y prosiect. Rhoddwyd cyfle i’r Gweinidog hefyd i ddysgu mwy am afiechyd meddwl difrifol drwy wrando ar ddefnyddwyr gwasanaeth yn trafod eu profiadau. Roedd defnyddwyr gwasanaeth wedi siarad â’r Gweinidog am sut y mae defnyddwyr gwasanaeth yn chware rhan bwrpasol yn medru elwa’r modd y mae gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu datblygu a gwnaethant drafod eu gwaith gydag Arolygiaeth Safonau Gofal i Gymru yn hyrwyddo system archwilio ar gyfer gofal cymdeithasol.

Dywedodd Gweithiwr Cyswllt Hafal Denise Charles: “Mae’r Gweinidog wedi bod yn gefnogol iawn o waith Hafal. Roedd wedi siarad yn nathliadau ein Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn y Senedd yr hydref diwethaf, ac ym mis Mehefin, roedd wedi lansio canllaw newydd – “Cynllunio Gofal a Thriniaeth: canllaw cam wrth gam ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd” – a gynhyrchwyd gan Hafal mewn cydweithrediad â’r Sefydliad Iechyd Meddwl a Bipolar UK. Mae’r canllaw wedi ei ddylunio i gynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth i elwa o’r mwyaf o’r Cynlluniau Gofal a Thriniaeth a gyflwynwyd fel rhan o’r Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) ar Fehefin 6ed.

• Am fwy o luniau o ddigwyddiad heddiw, ewch os gwelwch yn dda i dudalen Facebook Hafal.
• Am fwy o wybodaeth am “Law yn Llaw at Iechyd Meddwl” cliciwch yma os gwelwch yn dda.
• Er mwyn lawrlwytho copi o Ymateb Panel Defnyddwyr Gwasanaeth Iechyd Meddwl a Gofalwyr i’r Strategaeth ddrafft, cliciwch yma os gwelwch yn dda.
• Er mwyn lawrlwytho copi o “Gynllunio Gofal a Thriniaeth; canllaw cam wrth gam ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd”, cliciwch yma os gwelwch yn dda.
• Am fwy o wybodaeth am Hafal, ewch os gwelwch yn dda i: www.hafal.org