Pobl ag anhwylder deubgeynol yn aros am 13 mlynedd ar gyfartaledd am ddiagnosis

Mae arolwg newydd yn datgelu fod 4 o bob 5 person ag anhwylder deubegynol yn straffaglu i gael diagnosis cywir – gydag oedi ar gyfartaledd yn gyfnod anhygoel o 13 mlynedd.

Mae’r arolwg o 706 o bobl sydd wedi eu heffeithio ag anhwylder deubegynol wedi ei gynnal gan Bipolar UK, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion a Bipolar Scotland er mwyn dathlu’r Diwrnod Ymwybyddiaeth Bipolar cyntaf (27 Mehefin).

Ar gyfartaledd, dywedodd y sawl a ymatebodd eu bod wedi dechrau profi symptomau anhwylder deubegynol pan oeddynt yn 23, gyda 50% yn dynodi i’r symptomau cyntaf ymddangos pan oeddynt rhwng 11 a 20 mlwydd oed. Tra bod 15% wedi derbyn diagnosis yn syth, roedd 85% wedi cael trafferthion wrth geisio cael y diagnosis cywir – roedd y mwyafrif o bobl wedi derbyn diagnosis anghywir o iselder.

Y cyfnod aros ar gyfartaledd ar gyfer diagnosis cywir oedd 13.2 mlynedd. I’r rhai hynny sydd wedi profi oedi o ran diagnosis, roedd 71% yn teimlo bod eu symptomau wedi gwaethygu ar ôl derbyn triniaeth amhriodol megis gwrthiselyddion neu dabledi cysgu.

Dywedodd Alison Cairns, Prif Weithredwr Bipolar Scotland: “Mae canlyniadau’r arolwg yn adlewyrchu profiadau ein haelodau. Mae yna nifer o resymau am yr oedi o ran diagnosis, gan gynnwys y ffaith fod pobl yn fwy tebygol o ymweld â Meddyg Teulu wrth deimlo’n isel ac yn amharod i ddatgelu pa mor eithafol yw eu hwyliau. Mae amlygu’r materion yma ond yn medru cael effaith bositif.”

Dywedodd Suzanne Hudson, Prif Weithredwr Bipolar UK: “Mae oedi o’r hyd yma yn cael effaith sylweddol ar unigolion a theuluoedd sydd ag effeithiau difaol weithiau gan fod yna fwy o beryg am hunanladdiad o safbwynt anhwylder deubegynol nag unrhyw salwch seiciatryddol arall. Mae angen i bawb ohonom – unigolion sydd yn bryderus am eu hiechyd, perthnasau, ffrindiau, gweithwyr meddygol proffesiynol a’r cyfryngau – i weithio gyda’n gilydd er mwyn sicrhau fod y cyfnod amser hwn yn cael ei leihau. Os ydych yn bryderus am anhwylder deubegynol, ewch i www.bipolaruk.org.uk a chwblhewch y ‘mood scale’; yr ydym yn darparu cyn trafod hyn gyda’ch meddyg: byddant yn rhoi dealltwriaeth well i chi o’r newid yn eich hwyl dros amser. Os yn bosib, siaradwch ag anwylyd neu fudiad megis Bipolar UK neu Bipolar Scotland am gefnogaeth.”

Roedd y mudiadau hefyd wedi cynnal arolwg unigol o 460 o weithwyr iechyd proffesiynol gan gynnwys seiciatryddion. Roedd hyn wedi dangos meysydd o arferion da gyda 89% o bobl yn dweud eu bod yn sgrinio pobl sydd yn dangos symptomau o iselder ar gyfer gwirio a oes hanes o fania hefyd. Fodd bynnag, dywedodd 43% ohonynt nad oeddynt braidd neu fyth wedi siarad â pherthynas neu ofalwr y person er mwyn cadarnhau’r hanes. Yn ychwanegol at hyn, dywedodd mwy na hanner (51%) y byddent yn canfod fod offer sgrinio syml ar gyfer anhwylder deubeygnol yn ddefnyddiol yn eu gwaith clinigol dydd i ddydd.

Dywedodd y seiciatrydd ymgynghorol Dr Danny Smith: “Mae’r arolwg hyn yn gyson gyda nifer o astudiaethau ymchwil sydd yn dangos fod cael y diagnosis yn gywir yn y cyfnod cynnar o anhwylder deubegynol yn medru bod yn heriol iawn. Roedd llawer o bobl ag anhwylder deubgeynol sydd wedi ymateb i’r arolwg yn teimlo bod Meddygon Teulu a gweithwyr proffesiynol eraill angen mwy o gymorth wrth gynnal asesiadau mwy manwl i ganfod iselder deubgynol.”

Dim ond hanner y clinigwyr (53%) a ddywedodd eu bod o’r farn fod ymdriniaeth y wasg o anhwylder deubegynol wedi bod yn ddefnyddiol neu yn ddefnyddiol iawn o ran cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gyhoeddus o’r afiechyd.

Dywed y cyflwynydd teledu Bill Oddie, sydd wedi siarad am ei brofiad personol o anhwylder deubegynol ac sydd yn cefnogi Dwirnod Ymwybdydiaeth Bipolar Cenedlaethol: “Dros ddeng mlynedd er mwyn dod at ddiagnosis cywir! Wir? Dwi’n methu â chredu hynny. Mae wedi digwydd i mi ac mae’n digwydd i eraill nawr. Gallai fod yn angheuol.”