Mae ail adroddiad blynyddol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) sydd yn monitro’r defnydd o’r Mesur Iechyd Meddwl yng Nghymru yn ystod 2010-11 wedi canfod nad yw “cleifion yn cael gwybod bob tro am eu hawliau” a bod rhai ohonynt wedi eu “gorfodi i dderbyn triniaeth”.
Mae gofyn i AGIC i baratoi adroddiad blynyddol sydd yn orhain y gwaith y maent wedi ei wneud er mwyn cyflawni eu cyfrifoldebau o ran monitro’r Ddeddf Iechyd Meddwl. Wrth wneud sylw ar yr adroddiad diweddaraf, dywedodd Prif Weithredwr AGIC Dr Peter Higson:”Yn gyffredinol, canfuom fod y prosesau cyfreithiol priodol wedi eu dilyn pan gadwyd cleifion yn gaeth dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Fodd bynnag, mae ein hadroddiad yn nodi meysydd lle mae angen gwneud gwelliannau wrth ddarparu gofal a thriniaeth yn gyffredinol.”
Ym 2010-11, roedd AGIC wedi siarad gyda 140 o gleifion a oedd wedi eu cadw o dan orchymyn ac wedi archwilio cofnodion tua 200. Roedd rhai cleifion y bu arolygwyr yn siarad gyda hwy yn teimlo eu bod wedi eu “gorfodi i dderbyn triniaeth neu aros yn yr ysbyty yn answyddogol ar ôl i rywun ddweud wrthynt y byddent fel arall yn cael eu cadw yno”. Roedd pryderon pellach yn ymwneud gyda hawliau cleifion, bylchau o ran darpariaeth, cadw cofnodion a hygyrchedd “amrywiol” at seicolegwyr.
Roedd yr adroddiad yn datgan: “Rydym yn pryderu’n arbennig ynghylch y ffaith nad oedd gweithdrefnau cadw cofnodion o ran caniatâd ar gyfer triniaeth bob amser yn cael eu dilyn yn briodol. Gan fod y Ddeddf yn caniatáu ar gyfer rhoi rhywfaint o driniaeth feddygol ar gyfer anhwylder meddyliol heb ganiatâd unigolyn, mae’n bwysig bod sefydliadau’n dilyn y gweithdrefnau cywir. Rydym hefyd yn pryderu ynghylch y ffaith nad oedd cleifion bob amser yn cael gwybod am eu hawliau mewn modd prydlon.
“Mae angen mynd i’r afael â’r diffyg gweithgareddau a chyfraniad therapiwtig a oedd yn amlwg mewn nifer o leoliadau, a byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar y mater hwn yn ystod y flwyddyn i ddod. Canfuwyd bod sefydliadau’n amrywio o ran y therapïau, gan gynnwys seicolegwyr, a oedd ar gael. Mae hyn yn peri pryder oherwydd y gall cyfraniad therapiwtig o’r fath gynorthwyo â’r broses adfer ac arwain at gadw’r claf am gyfnod byrrach.”
Wrth wneud sylw ar ganfyddiadau yr adroddiad, dywedodd Prif Weithredwr Hafal Bill Walden-Jones: “Fel elusen a arweinir gan gleifion ac sydd ar gyfer pobl ag afiechyd meddwl difrifol – sef y rhai hynny sydd fwyaf tebygol o fod yn destun i’r Ddeddf – rydym yn bryderus iawn am ganfyddiadau’r adroddiad hwn.
“Un o’n hamcanion allweddol fel mudiad yw sicrhau bod cleifion yn derbyn yr hawliau y maent yn eu haeddu – a’u bod yn cael eu hymrymuso i’w defnyddio, ac felly, mae’n bryderus fod yr adroddiad wedi canfod nad yw cleifion yn cael gwybod am eu hawliau bob tro, ac nad yw’r gweithdrefnau cywir yn cael eu defnyddio bob tro o ran cleifion yn rhoi eu caniatâd i dderbyn triniaeth.
“Yr hyn sydd yn ein poeni fwyaf yw’r diffyg cyfraniad therapiwtig mewn nifer o leoliadau ysbyty, gan gynnwys diffyg mynediad at therapïau siarad. Pan fo rhywun yn cael ei gadw o dan y Ddeddf, mae’n hanfodol eu bod yn derbyn y gefnogaeth fwyaf effeithiol er mwyn gwella eto a pharhau gyda’u bywydau.”
Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth y BBC: “Rydym yn croesawu adroddiad AGIC ac yn mynd i ystyried y manylion yn ogystal ag unrhyw waith pellach sydd angen er mwyn sicrhau bod y Ddeddf (Iechyd Meddwl) yn cael ei defnyddio’n briodol.
“O dan y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 newydd, bydd mwy o ddefnyddwyr gwasanaeth yn cael mynediad at eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol ac yn chwarae mwy o ran yn y broses o gynllunio gofal a thriniaeth.”
Er mwyn lawrlwytho cop o’r adroddiad, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.hiw.org.uk/