Gofalwyr y Barri yn pwysleisio pwysigrwydd ymyrraeth gynnar

Roedd pwysigrwydd ymyrraeth gynnar yn y broses o drin afiechyd meddwl difrifol – a’r angen i sicrhau fod Meddygon Teulu yn meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf o ran rhoi diagnosis o afiechyd meddwl – yn un o’r pwyntiau trafod yn nigwyddiad Symud I Fyny heddiw yn y Barri.

Mae Anne wedi bod yn ofalwr amser llawn (ers rhoi’r gorau i’w gwaith) am oddeutu dwy flynedd. Wrth siarad am ei phrofiad o ofalu a gwasanaethau iechyd meddwl ym Mro Morgannwg, dywedodd Anne sydd yn gofalu am ei gŵr sydd ag anhwylder deubegynol a’i mab sydd wedi derbyn diagnosis fod seicosis ganddo: “Dechreuodd problemau fy mab chwe blynedd yn ôl pan oedd yn 16. Yn anffodus, nid oedd ei Feddyg Teulu yn credu bod problemau iechyd meddwl ganddo; roedd yn credu mai ymddwyn yn ddrwg ydoedd. Roeddwn wedi ymbil ar fy Meddyg Teulu i ysgrifennu at seiciatrydd ond gwrthododd. Roedd fy mab yn mynd i’r Ganolfan Byd Gwaith am Lwfans Ceiswyr Gwaith ac roeddynt hwy yn medru gweld fod problemau ganddo. Roedd rhywun o’r Ganolfan Byd Gwaith wedi ffonio Meddyg Teulu fy mab a gofynnodd yntau: “Sut mae hyn yn fusnes i chi?”

“Roeddwn wedi ceisio cael gafael ar gefnogaeth i’m mab drwy’r cyngor lleol. Fodd bynnag, cefais sioc wrth ddysgu ei fod yn rhy hen i’r gwasanaeth CAMHS ac yn rhy ifanc i dderbyn gwasanaethau i oedolion. Nid oeddwn yn medru credu fod y fath gagendor yma yn bodoli. Roeddwn wedi gorfod mynd yn ôl ac ymlaen rhwng gwasanaethau i blant ac oedolion, roeddwn o dan straen ofnadwy ac wedi fy nghymhlethu a hyd yn oed bron yn sâl fy hun. Ers hynny, rwyf wedi dysgu i ymladd am wasanaethau i’m mab. Roeddwn wedi gorfod ymladd, er enghraifft, er mwyn cael Gweithiwr Cymorth iddo.

“Rwy’n credu’n gryf fod ymyrraeth gynnar yn hanfodol o ran trin afiechyd meddwl difrifol a dylai fod yna bontio hawdd rhwng gwasanaethau iechyd meddwl i blant ac oedolion a dylai Meddygon Teulu feddu ar y wybodaeth ddiweddaraf o ran materion iechyd meddwl, gan sicrhau eu bod wedi eu hyfforddi yn llawn i weld yr arwyddion a symptomau. Mae’n angenrheidiol fod Meddygon Teulu yn gwbl gyfarwydd ag afiechyd meddwl am fod y rhan fwyaf o bobl yn mynd atynt hwy yn gyntaf.”

Nod yr ymgyrch “Symud I Fyny” yw elwa o’r mwyaf o’r cyfleoedd ar gyfer adferiad o afiechyd meddwl difrifol sydd yn cael eu darparu gan “Law yn Llaw at Iechyd Meddwl”, a’r Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) hanesyddol. Mae’r Mesur hwn yn hynod arwyddocaol oherwydd mae’n rhoi hawliau allweddol newydd i ddefnyddwyr gwasanaeth ac o’r diwedd wedi rhoi’r hawl gyfreithiol o’r diwedd i ddefnyddwyr gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd yng Nghymru i dderbyn Cynllun Gofal a Thriniaeth holistaidd sydd yn cynnwys meysydd megis: llety; cyllid ac arian; addysg a hyfforddiant.

Mae’r ymgyrch “Symud I Fyny” yn cael ei chynnal gan ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr ac yn cael ei chefnogi gan yr elusennau iechyd meddwl Hafal, Bipolar UK a’r Mental Health Foundation. Mae 22 digwyddiad sirol wythnosol yn cael eu cynnal gyda’r uchafbwynt yn daith ddringo i gopa uchaf Cymru, sef yr Wyddfa, ym mis Medi. Bydd yr ymgyrch hefyd yn cynnwys stondin rhyngweithiol ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Am fwy o luniau o’r digwyddiad, ewch os gwelwch yn dda i dudalen Facebook Hafal.
Er mwyn ymweld â Chanolfan Wybodaeth i Bobl Ifanc Hafal, cliciwch yma os gwelwch yn dda.
Am fwy o wybodaeth am yr ymgyrch, ewch os gwelwch yn dda i www.hafal.org.