Beth sydd wedi ei gynnwys yn Strategaeth Iechyd Meddwl newydd Cymru?

Heddiw, roedd Llywodraeth Cymru wedi lansio ei Strategaeth Iechyd Meddwl newydd, “Law yn Llaw at Iechyd Meddwl” a Chynllun Cyflenwi cychwynnol tair blynedd. Rydym yn dadansoddi yma yr hyn sydd wedi ei gynnwys yn y Strategaeth a’r Cynllun – a’r hyn y gallai olygu i wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.

Beth sydd wedi ei gynnwys yn y Strategaeth a’r Cynllun?

Dyma grynodeb:

• Mae’r Strategaeth yn amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn yr unfed ganrif ar hugain a dyma’r strategaeth iechyd meddwl a lles gyntaf i Gymru sydd ar gyfer pobl o bob oedran. Mae’r Stratgeaeth yn atgyfnerthu’r fframwaith cyfreithiol sydd wedi ei osod gan y Mesur Iechyd Meddwl a’i Reoliadau a Chodau Ymarfer cysylltiedig.
• Mae’r Cynllun Cyflenwi yn amlinellu rhaglen tair blynedd o welliant, gan gyflymu’r cynnydd sydd ei angen ar gyfer darparu gwasanaethau.

Mae’r Strategaeth a’r Cynllun yn mynd i’r afael â’r cynulleidfaoedd allweddol canlynol:

1. Pobl sydd yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd. Mae tua 80% o adnoddau ar gyfer iechyd meddwl yn mynd tuag at ddarparu gwasanaethau i bobl sydd ag afiechydon megis sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol ac yn derbyn gwasanaethau eilaidd. Mae’r Strategaeth yn atgyfnerthu rhannau 2, 3 a 4 o’r Mesur sydd yn ymwneud â chynllunio gofal a thriniaeth holistaidd, ail-fynediad at wasanaethau ac eiriolaeth ar gyfer y cleifion yma. Yn benodol, mae’r Strategaeth yn tanategu’r Mesur drwy osod pwyslais ar ddau beth:

• Dull holistaidd tuag at gynllunio gofal a thriniaeth: mae’r Strategaeth yn amlinellu’n gwbl eglur y disgwyliadau ar gyfer yr wyth agwedd o fywyd sef: llety; addysg a hyfforddiant; cyllid ac arian; triniaethau meddygol a ffurfiau eraill o driniaeth gan gynnwys ymyriadau seicolegol; rhianta neu berthnasau gofalu; gofal personol a lles corfforol; materion cymdeithasol, diwylliannol ac ysbrydol; a gwaith a galwedigaeth. Mae’n cefnogi’r Mesur drwy sicrhau bod dull holistaidd yn cael ei fabwysiadu pan yn adnabod gwasanaethau ar gyfer pobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol drwy hyrwyddo cynlluniau gofal sydd yn adnabod amcanion ym mhob agwedd o fywyd. Mae hyn yn gosod dyletswydd ar ystod eang o fudiadau o fewn y gymuned i ddarparu gwasanaethau i gleifion – o asiantaethau tai i ddarparwyr addysg i wasanaethau cyflogaeth. Mae’r Strategaeth a’r Cynllun yn pwysleisio’r angen am ymrwymiad ar draws y Llywodraeth gyfan i’r holl sectorau i weithio gyda’i gilydd er mwyn hyrwyddo iechyd a lles meddwl.

• Pwyslais ar adferiad o afiechyd meddwl. Yn y gorffennol, mae’r cleifion wedi eu siomi gan wasanaethau na sydd yn uchelgeisiol ac a fu’n aml yn eu cynnal yn hytrach na’u cefnogi i wneud cynnydd. Mae’r Strategaeth yn ail-ffocysu’r gwasanaethau yma fel y byddant yn cefnogi cleifion i adfer eu hiechyd meddwl.

2. Pobl yn ymgysylltu gyda gwasanaethau gofal cynradd. Mae’r Stratgeaeth yn atgyfnerthu Rhan 1 o’r Mesur drwy anelu i wella profiad pobl sydd yn mynd i’w meddygfa leol am help gyda materion megis gorbryder ac iselder. Mae’r Strategaeth yn pwysleisio y dylid adnabod anghenion cleifion yn gyflym a dylent dderbyn help naill ai yn y feddygfa neu gael eu hatgyfeirio yn fuan wedi hyn at wasanaethau arbenigol.

3. Pawb yng Nghymru. Yn olaf, mae’r Strategaeth yn ceisio sicrhau bod pobl yng Nghymru yn fwy craff am eu lles eu hunain – ac yn graff ynghylch sut i ymateb pan fydd eraill yn sâl.
Materion allweddol eraill.

Dyma rai o’r pwyntiau allweddol i’w cadw mewn cof am y Strategaeth a’r Cynllun newydd:-

i. Nodwch nad oes unrhyw arian newydd wedi ei gyhoeddi ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl gyda’r Strategaeth hon. Felly, mae ei llwyddiant yn ddibynnol ar ddefnydd gwell o’r cyllid – ac ar ffocysu adnoddau o adrannau na sydd adrannau iechyd meddwl megis tai ac addysg ar bobl sydd ag afiechyd meddwl.
Fodd bynnag, mae’r Strategaeth yn atgyfnerthu ymrwymiad y Llywodraeth i glustnodi arian ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn y GIG – ac felly, os wneir unrhyw arbedion effeithlonrwydd yn narpariaeth gwasanaethau neu os oes gwasanaethau yn cael eu tynnu yn ôl, mae’r holl arbedion yn cael eu hail-fuddsoddi mewn iechyd meddwl.

ii. Y Strategaeth yw’r strategaeth iechyd meddwl a lles gyntaf sydd ar gyfer pobl o bob oedran ac mae’n anelu am wasanaeth pontio di-dor rhwng gwasanaethau ieuenctid, oedolion a phobl hŷn. Mae’r Strategaeth yn anelu i sicrhau bod unrhyw drosglwyddiadau rhwng gwasanaethau yn seiliedig ar angen ac nid ar “ffiniau oedran artiffisial”.

iii. Mae’r Strategaeth a’r Cynllun yn weddol gyfyngedig am yr hyn y maent yn dweud am ofalwyr a theuluoedd y bobl hynny sydd ag afiechyd meddwl er eu bod yn tanlinellu hawliau gofalwyr i dderbyn asesiadau a’r angen am Strategaethau Gwybodaeth ac Ymgynghoriad i Ofalwyr lleol o dan y Mesur Strategaeth ar gyfer Gofalwyr (Cymru).

iv. Mae yna bwyslais ar ddarparu hyfforddiant i Gydlynwyr Gofal a fydd yn ysgrifennu’r Cynlluniau Gofal a Thriniaeth newydd sydd wedi eu rhagnodi gan y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru). Dywed y Cynllun y dylid darparu’r hyfforddiant ar gynllunio gofal a thriniaeth, drwy ddefnyddio’r deunydd rhagnodedig sydd wedi eu llunio gan Brifysgol Lincoln, i’r holl Gydlynwyr Gofal erbyn 2013.

v. Mae’r Strategaeth a’r Cynllun yn cydnabod yr angen i sicrhau bod yna ymyriadau priodol ac amserol ar gyfer pobl sydd yn y ddalfa – mae Iechyd Meddwl Cymru i mynd i gwblhau asesiad anghenion iechyd meddwl Cymru gyfan erbyn Ebrill 2013 ac mae Llywodraeth Cymru yn mynd i gyhoeddi canllaw gweithredu polisi i wasanaethau iechyd meddwl carchardai erbyn Ebrill 2013. Yn y cyfamser, mae yna ofyn i Fyrddau Iechyd Lleol i ddatblygu llwybr gofal ar gyfer y sawl sydd angen derbyn gofal a darpariaeth ddiogel i ffwrdd o’u hardal leol erbyn 2013.

vi. Mae’r Stratgeaeth a’r Cynllun hefyd yn anelu i wella amgylcheddau cleifion mewnol mewn gwasanaethau iechyd meddwl gan sicrhau bod gofal yn cael ei gydbwyso’n briodol rhwng gwasanaethau cleifion mewnol a gwasanaethau cymunedol. Mae Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol ac asiantaethau’r Trydydd Sector yn mynd i ddatblygu strategaethau cyfun lleol er mwyn lleihau’r oedi wrth drosglwyddo gofal, a chyfraddau derbyn i welyau iechyd meddwl gan gynnwys derbyniadau a ail-adroddir o fewn 28 diwrnod, erbyn Ebrill 2014.

vii. Mae’r Strategaeth yn adnabod bod cael mynediad amserol at ystod o ymyriadau seicolegol sydd yn seiliedig ar dystiolaeth yn flaenoriaeth o ran darparu gwasanaeth (gan danlinellu Canllaw Gweithredu Polisi Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn gynharach eleni) ac mae’n dweud y dylai therapïau eraill sydd yn seiliedig ar dystiolaeth, therapïau galwedigaethol, therapïau rhai nad ydynt yn rhai geiriol a therapïau seicolegol creadigol megis celf a cherddoriaeth, oll fod ar gael pan fod yna angen clinigol.

viii. Mae’r Cynllun Cyflenwi yn mynnu cynlluniau mwy manwl o amryw o adrannau sydd yn amlinellu sut y maent am weithredu eu dyletswydd i ddarparu gwasanaethau i gleifion. Er enghraifft, mae staff Byrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol yn mynd i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gweithio ar y cyd a datblygiadau ar wasanaethau tai a rhai eraill sydd yn ymgorffori iechyd meddwl ac mae partneriaethau llyfrgell rhanbarthol Cymru yn mynd i ddatblygu cynlluniau cyflenwi llythrennedd. Mae hyn yn tanategu nod y Strategaeth i ymgysylltu â nifer o adrannau er mwyn darparu gwasanaethau i bobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol.

ix. Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu ac yn arwain Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol newydd er mwyn cydlynu’r broses o ddarparu’r Strategaeth ar draws Cymru a bydd yn dwyn ynghyd Llywodraeth Cymru, y sectorau statudol ac annibynnol, y Trydydd Sector, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr.

Beth mae cleifion yn ei ddweud?

Dywedodd Bill Walden-Jones, Prif Weithredwr yr elusen sydd yn cael ei harwain gan gleifion a defnyddwyr Hafal: “Dros y dyddiau nesaf, byddwn yn darllen y Stratgeaeth yn fanwl ac yn ystyried yr ymateb gan gleifion a gofalwyr – sef yr hyn sydd yn cyfrif go iawn. Ein hymateb cyntaf yw bod y Strategaeth i’w chroesawu ac mae modd dweud nawr fod Cymru yn meddu ar fframwaith ddeddfwriaeth safonol ar gyfer iechyd meddwl a pholisi safonol er mwyn datblygu gwasanaethau iechyd meddwl. Ond mae’r rheithgor dal yn ystyried a ydym nawr yn mynd i fwrw ati i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl safonol yng Nghymru.

“Rhaid i mi ddweud bod gofyn i Lywodraeth Cymru i olygu’r hyn y mae’n dweud am glustnodi arian. Os nad yw Byrddau Iechyd Lleol yn mynd i fod yn gwbl eglur gyda chyfrifon clustnodi, yna ni fydd y Strategaeth a’r Cynllun Cyflenwi yma yn llwyddo. Rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn hynod wyliadwrus o hyn!”

Am wybod mwy?

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn cyhoeddi dadansoddiad mwy manwl ar gyfer:-

• Cynllunwyr/comisiynwyr/darparwyr fel y gallant weld yr hyn sydd i’w ddisgwyl ganddynt
• Cleifion a gofalwyr er iddynt weld yn union yr hyn y maent yn gymwys ar ei gyfer.

Yn y cyfamser…

• Er mwyn darllen y Strategaeth a’r Cynllun Cyflenwi, cliciwch yma.
• Er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf am iechyd meddwl, ewch i www.iechydmeddwlcymru.net.